Medi 2026
Ymchwil CARE Cymru yn croesawu wyth aelod newydd i’r tîm wrth i’r ganolfan barhau i dyfu ei phortffolio ymchwil.
Mae Ymchwil CARE Cymru yn falch iawn o groesawu wyth cydweithiwr newydd i’r tîm ers mis Mehefin 2026, gan nodi carreg filltir arwyddocaol arall yn nhwf a datblygiad parhaus y ganolfan.
Mae’r penodiadau’n adlewyrchu’r cynnydd ym maint portffolio ymchwil CARE a llwyddiant cynyddol y ganolfan wrth sicrhau cyllid ymchwil allanol. Mae nifer o’n cydweithwyr newydd wedi ymuno o ganlyniad uniongyrchol i brosiectau a ariannwyd yn ddiweddar drwy gefnogaeth amrywiaeth o gyllidwyr mawr, gan ein galluogi i gynyddu ein gallu i ddarparu ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion effeithiol ac o ansawdd uchel ledled Cymru a thu hwnt.
Rydym yn arbennig o ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), ac mae eu buddsoddiad yn CARE wedi helpu i sefydlu a chynnal amgylchedd ymchwil ffyniannus lle gall ymchwil gofal cymdeithasol uchelgeisiol ffynnu. Mae’r gefnogaeth hon wedi ein galluogi i adeiladu tîm amlddisgyblaethol cryf, datblygu cydweithrediadau newydd a chreu cyfleoedd i ddenu mwy o gyllid allanol sy’n fuddiol i’r sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru.
Ers mis Mehefin, rydym wedi croesawu:
- Shane Doheny, Cydymaith Ymchwil, Gofal Clyfar â Chysylltiad Cymdeithasol
- Sharmila Mahesh Kumar, Cydymaith Ymchwil (CARE)
- Mel Meindl, Cymrawd Ymchwil (CARE)
- Celia Netana, Cydymaith Ymchwil, Astudiaeth OMESH
- Emma Richards, Cydymaith Ymchwil (CARE)
- Nikita Stokes, Cynorthwyydd Ymchwil (CARE)
- Michele Convery, Gweinyddwr Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (CARE)
- Paul Spillane, Swyddog Cyllid Ymchwil (CARE)
Mae ein cydweithwyr newydd yn dod â chyfoeth o arbenigedd i CARE. Mae Shane Doheny yn ymuno â’r tîm gyda’i brofiad helaeth mewn ymchwil gwyddor gymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys gwaith ar heneiddio, polisi gofal iechyd a dimensiynau cymdeithasol iechyd a gofal. Mae Sharmila Mahesh Kumar yn dod ag arbenigedd mewn ymchwil ansoddol ac ymchwil wedi’i chyd-gynhyrchu sy’n canolbwyntio ar y defnydd o sylweddau, lles a cham-drin domestig. Mae ymchwil Celia Netana yn archwilio anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys amodau cyflogaeth o fewn sector gofal cymdeithasol Cymru.
Mae Nikita Stokes yn cyfrannu profiad mewn ymchwil ar anghydraddoldebau cymdeithasol, trais yn erbyn menywod a phrofiadau pobl ifanc. Mae Mel Meindl yn ymuno fel Cymrawd Ymchwil (ar ôl bod yn Gydymaith Ymchwil gyda CARE ac yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm), gan ddod â chefndir rhyngddisgyblaethol sy’n cwmpasu gofal cymdeithasol, seicoleg a niwrowyddoniaeth, ochr yn ochr ag arbenigedd mewn methodolegau realaidd ac anghydraddoldebau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Emma Richards yn dod ag arbenigedd mewn ymchwil i heneiddio, dementia ac iechyd y cyhoedd, gyda phrofiad o arwain astudiaethau ar heneiddio gwybyddol, colli clyw a dementia, yn ogystal â chyfrannu at effaith ymchwil a mentrau iechyd y cyhoedd.
Mae Michele Convery yn cynnig profiad gwerthfawr mewn ymgysylltu â staff a diwylliant ymchwil, tra bod Paul Spillane yn cyfrannu arbenigedd helaeth mewn rheolaeth ariannol a fydd yn cefnogi rhaglen gynyddol CARE o ymchwil a ariennir yn allanol.
Ymhlith y prosiectau sy’n sbarduno’r ehangiad hwn mae astudiaeth OMESH (Profiadau dynion hŷn o gelcio (hoarding) a’u hymgysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol), sydd â’r nod o wella’r ddealltwriaeth ynghylch sut mae dynion hŷn sy’n profi celcio a hunan-esgeulustod yn ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol a nodi ffyrdd o wella’r gefnogaeth. Rydym yn falch o groesawu Celia Netana i’r tîm prosiect pwysig hwn.
Rydym hefyd yn falch o groesawu Shane Doheny i’r prosiect Gofal Clyfar â Chysylltiad Cymdeithasol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio sut gall technolegau clyfar cost isel gefnogi pobl â dementia i fyw gartref yn annibynnol â chysylltiad cymdeithasol. Gan weithio ochr yn ochr â phobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, mae’r astudiaeth yn cyd-ddylunio ac yn asesu atebion Gofal Clyfar cynhwysol a fforddiadwy y gellir eu hymgorffori mewn ymarfer gofal cymdeithasol bob dydd. Gan adeiladu ar raglen ehangach CARE o ymchwil i dechnoleg, gofal cymdeithasol a lles, bydd y prosiect yn cyfrannu at dystiolaeth ar sut y gall atebion gofal digidol a chlyfar wella ansawdd bywyd, lles ac annibyniaeth wrth gefnogi dulliau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae penodiad Shane yn cryfhau gallu’r tîm i gyflawni ymchwil yn y maes pwysig ac amserol hwn.
Dywedodd yr Athro Paul Willis, Cyfarwyddwr Ymchwil CARE Cymru:
“Mae’n bleser mawr croesawu cynifer o gydweithwyr newydd talentog i CARE. Mae eu penodiadau yn adlewyrchu cryfder y ganolfan a’r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym yn arbennig o ddiolchgar am gefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac i’r amrywiaeth o gyllidwyr sy’n buddsoddi yn ein gwaith. Gyda’i gilydd, mae’r partneriaethau hyn yn ein galluogi i dyfu ein tîm, ehangu ein rhaglen ymchwil a chynyddu ein heffaith ledled Cymru a thu hwnt.”
Mae disgwyl i’r ganolfan barhau i dyfu. Ochr yn ochr â’r penodiadau newydd hyn, mae CARE wrthi’n recriwtio ymchwilydd ychwanegol i weithio ar Brosiect Asesu Anghenion CARE, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Mae’r cyfle diweddaraf hwn yn dangos bod portffolio ymchwil CARE yn parhau i dyfu, a hefyd yn nodi ein hymrwymiad i adeiladu capasiti ymchwil mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Wrth i CARE barhau i ddatblygu, rydym yn edrych ymlaen at y cyfraniadau y bydd ein cydweithwyr newydd yn eu gwneud i ymchwil, cynnwys y cyhoedd, cyfnewid gwybodaeth ac effaith, gan helpu i wella polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol oedolion ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru.

