Astudiaeth OMESH: Profiadau dynion hŷn o gelcio (hoarding) a’u hymgysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdodau lleol

Cyflwyniad:

Mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i brofiadau dynion hŷn o gelcio a hunan-esgeuluso lle mae’r rhain yn cyd-fynd a’u hymgysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hunan-esgeulustod yn cynnwys esgeuluso anghenion sylfaenol fel hylendid personol, diogelwch a diet a gall gynnwys celcio neu dal gafael ar eiddo a methu â’i waredu, gan greu mannau byw anniben ac yn aml yn beryglus. Gall celcio effeithio’n ddifrifol ar les person ac weithiau ar les a diogelwch ehangach y gymdogaeth. Hyd yn hyn ychydig iawn o ymchwil sy’n bodoli ar brofiadau dynion hŷn o gelcio a hunan-esgeuluso, ond gwyddom fod dynion hŷn yn llai tebygol o geisio cymorth a chefnogaeth.

Cefndir:

Y nod cyffredinol yw nodi ffyrdd o wella’r gefnogaeth sydd ar gael, a’r ymgysylltiad â gwasanaethau, i ddynion hŷn sy’n celcio ac yn hunan-esgeuluso ar yr un pryd (gan gynnwys lle mae celcio yn arwain at bryderon am hunan-esgeuluso) yng Nghymru.  Ein cwestiynau ymchwil yw:

Sut mae rhywedd a gwrywdod yn llunio ymatebion gofal cymdeithasol i ddynion hŷn yn y grŵp hwn?

Sut mae dynion hŷn (60+ oed) sy’n celcio ac yn hunan-esgeuluso ar yr un pryd yn ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol?

Dulliau astudio a gweithgareddau:

Bydd y dulliau’n cynnwys:

  • Cyfweliadau â dynion hŷn am eu profiadau diweddar a chyfredol o gelcio;
  • Cyfweliadau â gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ynglŷn â dull diogelu i gefnogi dynion hŷn;
  • Dadansoddiad thematig o nodiadau achos dienw a ddarparwyd gan awdurdodau lleol sy’n cydweithio gyda ni.

Drwy gydol y prosiect, byddwn ni’n gweithio gyda grŵp cynnwys y cyhoedd sy’n cynnwys dynion sydd â phrofiad o gelcio a gofalwyr teuluol.

Arweinwyr Ymchwil:

Yr Athro Paul Willis, CARE

Cysylltiadau CARE:

Mae hwn yn brosiect dan arweiniad CARE a gynhelir gan CARE

Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau:

Rydyn ni’n cydweithio â Kayley Hyman o Holistic Hoarding (elusen yn Ne Cymru sy’n cefnogi pobl sy’n celcio). Ein cydweithwyr yw pedwar awdurdod lleol (Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Gofal Cymdeithasol Cymru (rheoleiddiwr gofal cymdeithasol cenedlaethol).

Ariannwr / Arianwyr:

Rhaglen Ymchwil Gofal Cymdeithasol NIHR

Swm y cyllid:

£412,296

Dyddiad dechrau’r prosiect:

01/02/2026

Dyddiad gorffen y prosiect:

31/01/2028

Canfyddiadau:

Yn parhau