Cefndir
Mae’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) wedi derbyn £3 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddatblygu ymchwil arloesol ar ofal cymdeithasol i oedolion. Mae’r ganolfan yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol o bob rhan o Brifysgol Caerdydd ac yn hybu cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau a grwpiau ledled y DU.
Gweledigaeth
Rydyn ni am fod yn ganolfan ymchwil flaenllaw ym maes gofal cymdeithasol i oedolion sydd am weld cymdeithas lle mae gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n dosturiol, yn canolbwyntio ar y person ac yn hyrwyddo llesiant a chynhwysiant ymhlith oedolion o bob cefndir yn cael ei roi i bob unigolyn y mae angen gofal a chymorth arno.
Datganiad cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes gofal cymdeithasol i oedolion trwy ymchwil a chydweithio amlddisgyblaethol. Bydd CARE yn cynhyrchu tystiolaeth o safon am ofal cymdeithasol i oedolion sy’n seiliedig ar brofiadau pobl sy’n cael gofal a chymorth a’r rhai sy’n rhoi gofal, gan gynnwys y dulliau ymchwil mwyaf trylwyr sy’n addas ar gyfer y cwestiynau dan sylw.
Meysydd i ganolbwyntio arnyn nhw
Bydd CARE yn adeiladu ar yr ymchwil sydd eisoes wedi’i gwneud ym Mhrifysgol Caerdydd ar ofal cymdeithasol i oedolion a’r berthynas rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Dyma fydd y pynciau allweddol:
- Dementia a chyflyrau hirdymor
- Anableddau dysgu, niwroamrywiaeth ac anawsterau dysgu
- Tai a lleoliadau gofal hirdymor i bobl hŷn
- Pontio i fod yn oedolyn a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion
- Rheoli’r gweithlu a darparu gofal
- Technoleg, gofal cymdeithasol a lles
- Henaint, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol
- Gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth gofal cymdeithasol.
Bydd gan CARE grŵp goruchwylio o uwch-arweinwyr a llunwyr polisïau, gan gynnwys paneli cynghori o ymarferwyr a phobl sydd â phrofiad bywyd o dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd y rhain yn gwneud yn siŵr bod y gwaith yn berthnasol i’r sector gofal cymdeithasol.
Cefndir
Y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) sy’n cefnogi datblygiad CARE. Mae swyddfeydd CARE yn adeilad sbarc|spark y Brifysgol. Agorodd SPARK yn 2022, a dyma’r parc ymchwil cyntaf yn y byd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Mae’r cyfleuster pwrpasol hwn yn rhan o Gampws Arloesedd gwerth £300 miliwn. Mae’n cydleoli ymchwilwyr blaenllaw ym maes y gwyddorau cymdeithasol â sefydliadau a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat, y mae rhai ohonyn nhw’n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol.
Dyfarnwyd y grant i sefydlu CARE i Brifysgol Caerdydd ar sail ei hanes o ymchwil ac effaith, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant. CASCADE yw’r ganolfan ymchwil fwyaf yn y DU ar gyfer gofal cymdeithasol i blant. Mae wedi sicrhau £7.2 miliwn mewn grantiau ymchwil ers mis Ebrill 2020 dan arweiniad partneriaeth CASCADE, yn ogystal â £2.6 miliwn mewn cyllid seilwaith. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o ddwy brifysgol yn unig yn y DU sydd â dau academydd gwaith cymdeithasol ymhlith y 100 cyfranogwr gorau yn y byd i gyfnodolion academaidd, fel y nodwyd mewn dadansoddiad diweddar yng nghyfnodolyn Research on Social Work Practice yr Unol Daleithiau.
Mae CARE yn cael ei harwain gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd â nifer o ganolfannau ymchwil mawr ac sy’n cynnig rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil ym maes gwaith cymdeithasol. Yn rhan o REF 2021, priodolwyd cyfran sylweddol o’r cyllid ymchwil, yr allbynnau a’r effaith ym maes y gwyddorau cymdeithasol i gyflwyniadau dwy adran yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – Addysg (#3 ar gyfer Cyfartaledd Pwynt Gradd yn y DU), a Seicoleg (#10 ar gyfer Cyfartaledd Pwynt Gradd). Mae Canolfan Treialon Ymchwil y Brifysgol yn bartner allweddol, a bydd yn cyflogi rhywfaint o staff CARE. Ymhlith ysgolion eraill Prifysgol Caerdydd sy’n cefnogi CARE mae Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yr Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Seicoleg.