Cyfleoedd

Labordy CARE – Ymunwch â’n Grŵp Profiad Bywyd  

 Beth yw Labordy CARE? – Mae Labordy CARE Lab yn brosiect ymchwil newydd a fydd yn helpu i wella gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru. Bydd yn cysylltu data dienw o wasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd a gwasanaethau eraill yn ddiogel er mwyn deall yn well pwy sy’n derbyn gofal a chymorth, pwy sydd ddim, a sut y gellir gwella pethau. Trwy ddod â’r ffynonellau hyn at ei gilydd, bydd Labordy CARE yn rhoi’r trosolwg cenedlaethol mwyaf cyflawn o ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i lunio gwell gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.   

Pwy ydyn ni’n chwilio amdanyn nhw? – Grŵp o bobl (hyd at ddeg unigolyn) i ymuno â’n Grŵp Profiad Bywyd sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, derbyn gofal a chymorth neu fod yn ofalwr di-dâl yng Nghymru.   

Gallai hyn gynnwys pethau megis:     

  • Byw gydag amhariad a/neu gyflwr iechyd    
  • Bod yn ofalwr di-dâl   
  • Yn derbyn gofal a chymorth gan:  
  • Canolfannau dydd, elusennau a sefydliadau   
  • Gofal cartref   
  • Cefnogaeth gymunedol   
  • Cartrefi gofal, cartrefi nyrsio a byw â chymorth   

Beth fyddwn i’n ei wneud fel aelod o’r Grŵp Profiad Bywyd:     

  • Mynd i bedwar cyfarfod y flwyddyn (ar-lein ac wyneb yn wyneb)   
  • Helpu i lunio prosiect Labordy CARE gyda’ch profiad bywyd   
  • Rhannu syniadau a rhoi adborth wrth i’r prosiect ddatblygu   
  • Ennill sgiliau newydd gyda hyfforddiant am ddim a chefnogaeth barhaus   
  • Derbyn taliad am gymryd rhan (£25 yr awr)  

NID oes rhaid i chi fod ag unrhyw brofiad blaenorol o ymchwil neu o fod yn rhan o grŵp cynghori    

Oes gennych chi ddiddordeb? Rhagor o wybodaeth    

 Cysylltwch â Miranda Evans, Rheolwr Busnes a Phartneriaethau, Anabledd Cymru miranda.evans@disabilitywales.org   

Cysylltwch ag Alice Butler, Swyddog Cyhoeddus a Phroffesiynol Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), care@caerdydd.ac.uk