Mae’r Athro Paul Willis, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), a Dr Maria Jose Galvez Trigo o SCALE (Canolfan Dysgu Gofal Cymdeithasol a Deallusrwydd Artiffisial) wedi cyd-ysgrifennu erthygl newydd ar gyfer The Conversation sy’n ystyried yr hyn y gall cyfres gomedi newydd y BBC, Ann Droid, ei ddweud wrthon ni am ddyfodol gofal.
Mae’r erthygl, Could robots help tackle loneliness? BBC’s Ann Droid raises questions about the future of care, yn defnyddio arbenigedd yr awduron ym meysydd gofal cymdeithasol, heneiddio, unigrwydd, deallusrwydd artiffisial (DA), a roboteg sy’n seiliedig ar bobl i fyfyrio ar rai o’r cwestiynau pwysig a godwyd gan y rhaglen.
Mae Ann Droid, gyda Sue Johnston a Diane Morgan, yn dychmygu dyfodol agos lle mae robot dynolffurf yn rhoi gofal a chwmni i ddynes hŷn sy’n byw gartref. Er mai nod y gomedi sefyllfa yw diddanu, mae hefyd yn taflu goleuni ar faterion sy’n dod yn gynyddol berthnasol wrth i ymchwilwyr, darparwyr gofal a llunwyr polisïau ystyried sut gallai technoleg gefnogi lles, annibyniaeth a chysylltiad cymdeithasol nes ymlaen mewn bywyd.
Yn eu herthygl, mae Maria a Paul yn ystyried y cyfleoedd a’r heriau (a’r realiti presennol) a gyflwynir gan roboteg a DA ym maes gofal cymdeithasol, gan ystyried a allai technoleg helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd wrth ategu perthnasoedd a chefnogaeth ddynol yn hytrach na’u disodli.
Mae’r cydweithrediad yn dwyn ynghyd arbenigedd gan ddwy chwaer-ganolfan ymchwil a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae CARE yn canolbwyntio ar wella gofal a chymorth cymdeithasol i oedolion drwy ymchwil, tra bod SCALE yn edrych ar ddatblygiad a defnydd cyfrifol o DA a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
Mae’r themâu a drafodwyd yn yr erthygl yn cyd-fynd yn agos ag ymchwil arall sydd ar y gweill ledled CARE. Mae hyn yn cynnwys prosiect Dr Sofia Vougioukalou a Dr Roser Beneito-Montagut, Socially Connected SmartCare at Home, a ariennir gan NIHR, sy’n edrych ar sut gall technolegau clyfar cost isel yn y cartref gefnogi cysylltiad cymdeithasol, lles, a byw’n annibynnol i bobl sydd â dementia, ac astudiaeth Georgina Powell, a ariennir gan NIHR, sy’n ystyried sut gall technolegau clyfar prif ffrwd yn y cartref gefnogi oedolion sydd ag anabledd i fyw’n annibynnol. Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn tynnu sylw at ymrwymiad CARE i ddeall sut gall technoleg wella’r agwedd ddynol ar ofal, yn hytrach na’i disodli.
Mae’r erthygl, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan The Conversation, hefyd ar gael ar wefan CARE o dan drwydded Creative Commons y cyhoeddwr, gan helpu i gyflwyno safbwyntiau sy’n seiliedig ar ymchwil ynghylch gofal cymdeithasol a thechnoleg i gynulleidfa ehangach.
Darllenwch yr erthygl lawn ar wefan CARE: Could robots help tackle loneliness? BBC’s Ann Droid raises questions about the future of care
Cyhoeddiad gwreiddiol: The Conversation. [theconversation.com]

