Asesiadau o anghenion gofalwyr: Archwiliad drwy ddulliau cymysg o arferion gofal cymdeithasol a deilliannau i berthnasoedd gofal

Mae gofalwyr yn rhoi gofal a chefnogaeth yn ddi-dâl i berthnasoedd a ffrindiau sydd â salwch neu anabledd. Mae llywodraethau’r DU wedi nodi hawliau gofalwyr, ond mae’n anodd cynnal yr hawliau hynny pan fo adnoddau’n gyfyngedig a’r angen yn fawr.  Mae llawer o ofalwyr yn anfodlon ar y gefnogaeth maen nhw’n ei chael ac yn teimlo nad yw eu hawliau’n cael eu cynnal.  Mae hawliau gofalwyr yn cynnwys cael cymorth pan fydd awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau gofalwyr i amlygu eu hanghenion a nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen. Rydym yn gwybod nad yw asesiadau’n cael eu cynnal mor aml ag y dylen nhw, bod arferion yn amrywio ar draws a rhwng ardaloedd, a bod y gefnogaeth a roddir ar ôl cynnal asesiad yn amrywio’n fawr. Ychydig rydym ni’n ei wybod am pam mae hyn yn digwydd a sut y gellir nodi anghenion presennol a rhai’r dyfodol yn well.

Cefndir:

Nod yr astudiaeth yw deall ac egluro’r agweddau amrywiol at asesiadau gofalwyr sy’n cael eu cynnal yng Nghymru, yn ogystal â sut brofiad ydyn nhw i ofalwyr drwy ddulliau ansoddol a meintiol. Drwy ddefnyddio’r wybodaeth hon, byddwn yn cynllunio sut mae modd gwerthuso gwasanaethau ac ymyriadau ar lefel genedlaethol ar sail data arferol sydd ar gael nawr ac yn y dyfodol.

Ein cwestiynau ymchwil yw:

  1. Sut mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yn deall ac yn cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr?
  2. Sut mae polisïau ac arferion awdurdodau lleol mewn perthynas â gofalwyr yn cyd-fynd â’r gyfraith a’r polisïau cyfredol?
  3. Beth yw barn gofalwyr ar asesiadau o anghenion gofalwyr, ac unrhyw ddarpariaethau dilynol, a sut y gellid eu gwella?
  4. Pwy sy’n cael asesiadau o anghenion gofalwyr a sut maen nhw’n cymharu â gofalwyr yng Nghymru yn ehangach?
  5. Pa mor ymarferol yw defnyddio data a gesglir yn rheolaidd i werthuso ymyriadau a gwasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru?

Dulliau astudio a gweithgareddau:

Mae ein hastudiaeth yn cynnwys dau becyn gwaith.  Bydd pecyn gwaith 1 yn asesu cyflwr asesiadau gofalwyr yng Nghymru yn ansoddol. Byddwn yn dadansoddi dogfennau gan awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a chanllawiau cenedlaethol i ddeall sut mae asesiadau gofalwyr yn cael eu cynnal a sut mae cefnogaeth yn cael ei chynnig.  Defnyddir cyfweliadau â gofalwyr ac ymarferwyr mewn chwe awdurdod lleol i edrych ar brofiadau o’r broses asesu gan gynnwys deall eu pwrpas, yn ogystal ag a yw/sut mae anghenion gofalwyr yn cael eu nodi a’u diwallu. Bydd data WP1 yn cael ei godio a’i ddadansoddi i ddatblygu teipoleg ddisgrifiadol o ddulliau cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr ar draws awdurdodau lleol. 

Bydd pecyn gwaith 2 (WP2) yn defnyddio data o Gyfrifiad Gofalwyr Di-dâl sy’n Cael Asesiad o Anghenion Gofalwyr ( UCRS) sy’n cynnwys manylion am ddemograffeg ac asesiadau i ofalwyr. Bydd y data hwn yn cael ei gysylltu’n ddiogel â setiau data iechyd a gofal cymdeithasol ym Manc Data SAIL i ddisgrifio’r gofalwyr sy’n cael asesiadau a’u cymharu â gofalwyr yn ehangach. Byddwn yn disgrifio yn ôl nodweddion demograffig, penderfyniadau asesu a darpariaethau gwasanaeth yn ogystal ag amlygu amrywiadau mewn asesiadau. Bydd gwerthusiadau ar sail damcaniaeth yn y dyfodol o wasanaethau ac ymyriadau ar gyfer gofalwyr yn cael eu cynllunio drwy ddatblygu modelau rhesymeg. Defnyddir y rhain fel fframwaith i nodi cydrannau’r ymyrraeth a’r deilliannau arfaethedig y byddwn yn eu mapio yn erbyn ffynonellau data arferol sydd ar gael.

Bydd WP1 yn cael ei gynnal drwy gydol cyfnod y prosiect 36 mis, a bydd WP2 yn dechrau ar ôl 18 mis fel bod amser i ddata gael ei fewnbynnu i SAIL i’w ddadansoddi.

Cysylltiad CARE:

Mae’r prosiect hwn wedi elwa o gysylltiad Care â gofalwyr ac mae wedi cael ei lywio gan y Grŵp Profiad Bywyd.  Mae’n manteisio hefyd ar ein partneriaeth â’r Ymchwil Treialon Clinigol (CTR) ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Gweithgareddau cynnwys y cyhoedd:

Bydd grŵp cynghori gofalwyr, sy’n cynnwys 6 gofalwr a grŵp goruchwylio ar wahân sy’n cynnwys llunwyr polisïau ac ymchwilwyr, yn cwrdd 12 gwaith yn ystod yr astudiaeth.

Canfyddiadau:

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2026, felly nid oes unrhyw ganfyddiadau eto. 

Teitl y Prosiect:

Asesiadau o anghenion gofalwyr: Archwiliad drwy ddulliau cymysg o arferion gofal cymdeithasol a deilliannau i berthnasoedd gofal

Arweinwyr Ymchwil:

Dr Jeremy Dixon – CARE

Dr Fiona Lugg-Widger – CTR

Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau:

Cyd-ymchwilwyr

Yr Athro Ashley Akbari – Prifysgol Abertawe

Alice Butler – CARE, Prifysgol Caerdydd

Dr Dan Burrows – CARE/SOSSS, Prifysgol Caerdydd

Bobbie-Jo Haarhoff – Cyd-ymgeisydd cyhoeddus

Mike O Brien – Cyd-ymgeisydd cyhoeddus

Dr Stacey Rand – Prifysgol Caint

Dr Simon Read – Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Dr Diane Seddon – Prifysgol Bangor

Ariannwr / Arianwyr:

Rhaglen Ymchwil NIHR ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Cyfanswm yr arian:

£678,921

Dyddiad dechrau’r prosiect:

Medi 2026

Dyddiad gorffen y prosiect:

Awst 2029