Gan Dr Catherine Purcell
Mae’r ffordd rydyn ni’n sôn am anhwylderau niwroddatblygiadol yn newid yn sylweddol. Am gyfnod hir, roedd y term “Anhwylderau Niwroddatblygiadol,” fel yr amlinellwyd yn y DSM-5, yn disgrifio grŵp o gyflyrau gan gynnwys Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Cydlynu Datblygiadol, Syndrom Tourette, Anhwylder Datblygu Iaith, ac Anhwylderau Dysgu Penodol, megis Dyslecsia a mwy. Anawsterau swyddogaethol sy’n diffinio’r cyflyrau hyn, ond mae llawer o unigolion sydd ag arbenigedd trwy brofiad yn ymgyrchu dros ddefnyddio iaith fwy cadarnhaol a chynhwysol.
Yn hytrach nac ystyried eu hunain i fod yn unigolion ag “anhwylder,” mae’n well gan lawer o bobl ddisgrifio’u hunain i fod yn “niwrowahanol.” Mae’r newid hwn yn disodli termau fel “anhwylder” gyda “gwahaniaeth”, gan herio’r awgrym bod niwrowahaniaeth yn annormal.
Y Mudiad dros Niwroamrywiaeth: Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Pharch
Efallai bod y term “Niwroamrywiaeth” yn ymddangos yn newydd i rai, ond cafodd ei fathu am y tro cyntaf gan Judy Singer ym 1998. Mae niwroamrywiaeth yn cydnabod fod gweithrediad yr ymennydd yn amrywio yn union fel y gwelwn wahaniaethau mewn nodweddion corfforol. Y cysyniad hwn sy’n sail i’r mudiad dros niwroamrywiaeth, sy’n ymgyrchu dros hawliau unigolion niwrowahanol, a thros eu cynnwys a’u cydnabod.
Cysyniadau Allweddol
- Niwronodweddiadol: Unigolion y mae eu gweithrediadau niwrowybyddol yn cael eu hystyried i fod yn rhai “nodweddiadol”.
- Niwroamrywiaeth: Ystod gweithrediadau niwrowybyddol y boblogaeth. Ar gyfer unrhyw weithrediad penodol, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dod o fewn ystod ystadegol arferol, ond gall yr ystod hon amrywio’n sylweddol.
- Niwrowahaniaeth: Mae hyn yn cyfeirio at unigolion y mae eu gwahaniaethau niwrowybyddol y tu allan i’r ystod “nodweddiadol.”
Symud y tu hwnt i ‘Normal’
Caiff cymdeithas ei gwahodd i ailystyried yr hyn rydyn ni’n ei ystyried yn “normal” neu’n “nodweddiadol.” Nid oes unrhyw ffordd “gywir” i feddwl, dysgu nac ymddwyn. Yn hytrach na hynny, dylen ni gydnabod unigolion niwrowahanol yn rhan o amrywiaeth naturiol gwybyddiaeth ddynol.
Felly, er bod rhywun ag ADHD yn gallu ei chael hi’n anodd canolbwyntio mewn rhai amgylcheddau, maen nhw’n gallu ragori mewn amgylcheddau sy’n annog creadigrwydd. Yn yr un modd, gallai person awtistig gael anawsterau wrth ryngweithio’n gymdeithasol, ond gallai fod â sylw rhyfeddol i fanylion. Dylai cymdeithas werthfawrogi’r gwahaniaethau hyn yn hytrach na dal unigolion niwrowahanol i safonau niwronodweddiadol.
Edrych i’r dyfodol: Dyfodol y mudiad dros niwroamrywiaeth
Mae’r mudiad dros niwroamrywiaeth eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond mae tipyn mwy i’w wneud o hyd. Wrth i gymdeithas esblygu, felly hefyd mae ein dealltwriaeth o gymhlethdodau’r ymennydd dynol. Gobeithio, gydag amser, y bydd unigolion niwrowahanol yn cael eu derbyn a’u parchu’n llawn – ar bapur ac mewn bywyd bob dydd.
Mae angen gweithio gyda’n gilydd i greu byd sy’n ystyriol o niwroamrywiaeth. Mae’n golygu cofleidio gwahaniaethau, ymgyrchu dros gael amgylcheddau hygyrch a hyrwyddo polisïau sy’n sicrhau bod gan bobl niwrowahanol y cyfleoedd a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.
Cofleidio newid mewn iaith a phersbectif
Wrth i ni barhau i ddysgu am anhwylderau niwroddatblygiadol, dylai ein hiaith esblygu hefyd. Trwy ddefnyddio termau mwy cynhwysol fel “niwrowahaniaeth,” gallwn ni barchu profiadau unigolion gan gydnabod yr heriau a allai godi o fyw, gweithio a chwarae mewn amgylcheddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y boblogaeth niwronodweddiadol.
Yng ngeiriau Judy Singer, “Nid peth dros dro yw niwroamrywiaeth, ond model newydd” ac wrth i ni barhau i ddatblygu’r sylfaen hon, bydd, heb os, yn dod â ni’n agosach at fyd mwy cyfiawn a chynhwysol.