Technolegau Cynorthwyol Arloesol ar gyfer Dementia: Grymuso Cymunedau sydd heb Gynrychiolaeth Ddigonol

Gan Dr Roser Beneito-Montagut a Dr Sofia Vougioukalou

Mae prosiect ymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol ar y gweill yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI) a’r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR), Prifysgol Caerdydd. Nod y prosiect yw trawsnewid y modd y mae technolegau cynorthwyol yn cael eu defnyddio ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia.

Dan arweiniad Dr. Sofia Vougioukalou a Dr. Roser Beneito-Montagut, mae’r tîm wedi sicrhau cyllid gan Rwydwaith Arloesi Cymru i wella dealltwriaeth am “Technolegau Cynorthwyol Arloesol ar gyfer Dementia: Deall a Grymuso Cymunedau sydd heb Gynrychiolaeth Ddigonol mewn Gofal Cymdeithasol.”

Cyfres o weithdai gyda grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

Wrth wraidd y fenter hon, mae cyfres o weithdai sydd wedi’u cynllunio i wrando ar anghenion y rhai sy’n cael eu heffeithio gan ddementia a’u gofalwyr, wrth ddefnyddio technolegau cynorthwyol. Gan ganolbwyntio’n benodol ar gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, daeth y gweithdai hyn â grŵp amrywiol o randdeiliaid ynghyd, gan gynnwys academyddion, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, pobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr anffurfiol.

Er bod technolegau cynorthwyol yn dod yn gynyddol gyffredin, ceir bwlch sylweddol o hyd o ran deall dymuniadau a heriau rhai sy’n byw gyda dementia, sy’n perthyn i gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Nod y prosiect hwn yw pontio’r bwlch hwnnw trwy gynnal sgyrsiau ystyrlon rhwng pobl sy’n cael eu heffeithio a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, gan daflu goleuni newydd ar botensial technoleg gynorthwyol i wella bywyd bob dydd.

sbarc|spark, gweithdy Caerdydd

Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf yn Sbarc/Spark ar 10 Mai 2024. Dechreuodd y diwrnod gyda chyfres o gyflwyniadau gan academyddion ac unigolion sydd â phrofiad o fyw gyda dementia, gan gynnig safbwynt cyflawn ac amrywiol ar y pwnc. Yn sesiwn y prynhawn, cafodd y rhai oedd yn bresennol eu rhannu’n grwpiau, gyda thasg o gynllunio technolegau dychmygol ar y cyd. Cynhyrchodd y dull cydweithredol hwn syniadau cyffrous, gan arddangos grym cyfuno profiadau amrywiol a gwybodaeth. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gyfraniad aelodau Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Canolfan Adnoddau Nubian Life, Gofal Cymdeithasol Cymru, Women Connect First, ac academyddion o Brifysgol Caerwysg, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Wolverhampton.

Gweithdy Aberystwyth

Gan ddatblygu llwyddiant y gweithdy cychwynnol, trefnodd y tîm ymchwil weithdy arall ar 7 Mehefin 2024. Croesawodd yr Athro Charles Musselwhite y tîm i’r Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gan ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol, roedd gan y gweithdy hwn strwythur tebyg o gyfuno sgyrsiau byr gyda gwahanol randdeiliaid â gweithgareddau cynllunio cydweithredol. Daeth y diwrnod i ben ag ymweliad cyffrous â’r Smart Home Lab newydd sbon, dan arweiniad Dr. Patricia Shaw. Rhannodd rheolwyr gofal cymdeithasol ac aelodau o Gyngor Sir Penfro, Age Cymru Dyfed, a Chelfyddydau Anabledd Cymrueu profiadau o ddementia a thechnoleg. 

Bydd y prosiect yn parhau gyda thri gweithdy cymunedol gyda phobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n byw gyda dementia. Trwy flaenoriaethu lleisiau’r cymunedau hynny nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol, y mae dementia’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw, mae gan yr ymchwil hwn y potensial i ysgogi arloesedd ystyrlon mewn gofal cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd i gymaint o bobl.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *