*Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais: 3 Chwefror 2025*
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch i gynnig cyfle cyffrous ar gyfer efrydiaeth PhD a ariennir yn llawn fel rhan o Ganolfan CARE sydd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd gan ddechrau ym mis Hydref 2025.
Mae’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) yn seiliedig ar hyrwyddo arbenigedd amlddisgyblaethol ac ymchwil arloesol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion ac fe’i hariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Ei lleoliad yw SPARK/SBARC (Parc Gwyddorau Cymdeithasol). Cynhelir yr efrydiaeth PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd a bydd yn canolbwyntio ar archwilio materion sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol i oedolion gyda ffocws eang ar waith a chyflogaeth, rheolaeth a sefydliadau.
Amlinelliad
Ers nifer o flynyddoedd, mae’r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion wedi disgrifio’n aml fel un sydd mewn ‘argyfwng’ (Sefydliad Iechyd 2023). Mae’r argyfwng hwn yn gysylltiedig â’r prinder parhaus o weithwyr a welir mewn data ar recriwtio, cadw a throsiant. Yn 2023 nododd Skills for Care fod cyfradd y swyddi gwag yn Lloegr yn 9.9%, sy’n sylweddol uwch na’r gyfradd o 3.4% yn yr economi ehangach. Roedd cyfradd trosiant y staff a gyflogid yn uniongyrchol yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn 28.3% yn 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 390,000 o bobl yn gadael eu swyddi dros y flwyddyn (Skills for Care 2023). Gwelir bod yr argyfwng yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn pandemig COVID, er i hynny ei waethygu, a daw’r esboniadau o ddirywiad cyflogaeth yn gysylltiedig â thâl ac amodau gwaith yn y sector. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfraddau cyflog isel o’u cymharu â sectorau eraill, contractau cyflogaeth ansicr, oriau gwaith hir ac oriau anghymdeithasol. Serch hynny, mae gwaith gofal yn aml yn cael ei bortreadu fel paradocs; er gwaethaf yr amodau cyflogaeth niweidiol, mae gweithwyr gofal yn adrodd bod eu gwaith yn werth chweil ac ystyrlon iawn. Mae’r alwad PhD hon yn cynnig cyfle i archwilio ymhellach rai o’r ‘heriau mawr’ sy’n wynebu’r sector mewn perthynas â natur gwaith a chyflogaeth yn ogystal ag wrth reoli a threfnu gofal. Drwy wneud hyn, mae potensial i gyfrannu at drafodaeth gyhoeddus gynyddol bwysig am ddyfodol gofal. Mae hyn yn cynnwys archwilio ymhellach natur yr heriau hyn yn ogystal ag atebion ac arloesiadau posibl a all gynnwys amrywiol feysydd pwnc megis: –
- Cynaliadwyedd mewn ffurfiau gwaith a chyflogaeth a ffurfiau sefydliadol
- Arloesiadau technolegol a datblygiadau mewn gwaith gofal
- Arloesi mewn sefydliadau — gan gynnwys micro-fentrau, busnesau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr
- Archwilio’r cysylltiadau rhwng gwaith, cyflogaeth a threfniadaeth mewn gofal a’r rhai sy’n derbyn gofal a chymorth
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn gwaith gofal
Gall y meysydd hyn dynnu ar y themâu canlynol: –
Gwaith — archwilio natur gwaith ym maes gofal gan gynnwys tynnu ar nifer o drafodaethau a chysyniadau damcaniaethol gan gynnwys medr, ansawdd swyddi, gwaith teilwng, gwaith emosiwn a gwaith budr. Mae’n werth nodi bod gwaith ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yn aml yn cael ei gyflwyno’n homogenaidd a cheir cyfle i archwilio amrywiaeth ymhellach mewn gwahanol fathau o waith yn y sector sy’n adlewyrchu’n well yr ystod o sgiliau, natur ansawdd swyddi a mathau o waith emosiwn a gwaith budr.
Y Gweithlu a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – archwilio proffil y gweithlu gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy archwilio materion rhywedd, ethnigrwydd, heneiddio, rhywioldeb ac anabledd yn y gweithlu gofal. Er enghraifft, does dim cynrychiolaeth ddigonol o ddynion a gweithwyr iau yn y gweithlu, tra bod recriwtio rhyngwladol i’r sector yn cynyddu.
Cyflogaeth — archwilio amodau cyflogaeth yn y sector — gan gynnwys materion fel amser gwaith, ansicrwydd, cyflog a phensiynau. Yn ogystal â themâu sy’n gysylltiedig ag ysgolheictod rheoli adnoddau dynol gan gynnwys arloesiadau recriwtio — e.e. recriwtio ar sail gwerthoedd a dulliau o gadw staff a lleihau cyfraddau trosiant. Gallai’r astudiaethau hefyd gynnwys canolbwyntio ar fathau penodol o gyflogaeth fel cynorthwywyr personol, staff cartrefi gofal, rheolwyr gwasanaeth.
Sefydliadau – archwilio ystyriaethau cyd-destun sefydliadol gan gynnwys ffocws ar ddarparu gofal mewn gwahanol fathau o leoliadau gofal gan gynnwys cartrefi gofal, gofal yn y cartref, yn ogystal â’r potensial ar gyfer dulliau arloesol o drefnu gofal fel micro-fentrau, trwy gyllidebau personol, cydweithrediadau gofal a busnesau sy’n eiddo i weithwyr.
Rheoli — archwilio materion yn ymwneud â dulliau rheoli ac arddulliau arwain yn y sector, gan gynnwys perthnasedd lefelau rheoli megis goruchwylio yn ogystal ag uwch reolwyr. Yma gallai’r astudiaethau hefyd archwilio ystyriaethau rheoli ac ymreolaeth, gwaith tîm yn ogystal â natur arweinyddiaeth.
Datblygiadau arloesol — edrych ar ddulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau gan gynnwys cymhwyso technoleg newydd yn ogystal ag archwilio dulliau arloesol o gynllunio, trefnu a rheoli gwaith. Gall y ffocws hwn hefyd gynnwys y cysylltiadau rhwng datblygiadau arloesol a’r rheini sy’n derbyn gofal a chymorth.
Sut i wneud cais:
I wneud cais am yr ysgoloriaeth, rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys am statws ffioedd Cartref.
Dylid cwblhau a chyflwyno ffurflen gais ar-lein ar gyfer derbyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ein porth ymgeisio ar-lein. Rhaid i’r ffurflen ddod i law erbyn y dyddiad cau sef 12.00pm GMT ar 3Chwefror 2025. Yn yr adran ffynhonnell ariannu nodwch “Efrydiaeth GOFAL/CARE Studentship”.
Ni fydd ceisiadau anghyflawn, ceisiadau a anfonir drwy ebost, ‘cofrestru eich diddordeb’ neu geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.
Rhaid i’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:
1. Llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy dudalen)
2. Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau Gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw’n berthnasol)
3. Dau eirda academaidd neu broffesiynol. Rhaid i’r ymgeiswyr gysylltu â’r canolwyr eu hunain, a chynnwys y geirdaon yn eu cais.
4) CV academaidd: dim mwy na dwy dudalen
5. Cynnig Ymchwil: Awgrymir y penawdau canlynol:
- Teitl, nodau a phwrpas yr ymchwil;
- Trosolwg cryno o’r llenyddiaeth academaidd sy’n berthnasol i’ch maes;
- Cynllun/dulliau arfaethedig;
- Cyfraniadau academaidd eich ymchwil;
- Cyfeirnodau llyfryddiaethol.
Manylion ariannu
Bydd Dyfarniadau Efrydiaeth yn cychwyn ym mis Hydref 2025 a byddant yn talu eich ffioedd dysgu cartref yn ogystal â grant cynnal a chadw (ar hyn o bryd £19,237 y flwyddyn ar gyfer 2024/25 i fyfyrwyr amser llawn); ac yn cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil ychwanegol (RTSG). Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil. Am ragor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais darllenwch fanylion y prosiect.
Geirdaon
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu radd anrhydedd yn adran uchaf yr ail ddosbarth, ac, yn ddelfrydol, gradd Meistr briodol hefyd. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Ffefrir ymgeiswyr sydd â gradd Meistr hyfforddiant ymchwil berthnasol (neu gefndir cyfatebol mewn hyfforddiant ymchwil) ar gyfer mynediad i raglen astudio doethurol lawn amser tair blynedd (neu gyfwerth rhan amser) ond gellir ystyried ceisiadau cryf am raglen ‘1+3’ (h.y. un flwyddyn lawn amser o hyfforddiant ymchwil Meistr ac yna dair blynedd o astudio Doethurol llawn amser).
I wneud cais am yr ysgoloriaeth, dylai ymgeiswyr fod yn gymwys am statws ffioedd Cartref.