Gweminar CARE – Dal gafael: Recriwtio a Chadw mewn gofal cymdeithasol

Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2026
12:00 – 13:30 GMT
Ar-lein

Yng Nghymru, a ledled y DU, nodwyd mai cadw’r gweithlu yw un o’r heriau mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu gofal cymdeithasol. Mae cysylltiad agos rhwng cadw a recriwtio, gan ei bod hi’n mynd yn fwy anodd recriwtio gweithwyr newydd os yw pobl yn dewis peidio ag aros.

Ymunwch â ni wrth i ni gyflwyno a thrafod rhywfaint o’r ymchwil ddiweddaraf i’r gweithlu gofal cymdeithasol a pham mae gweithwyr yn dewis ymuno â’r sector, pam maen nhw’n aros a pham maen nhw’n gadael. Yn y seminar hwn, rydym yn rhoi sylw i recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd a phrofiadau pobl ifanc sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

A ddylwn i aros neu a ddylwn i fynd? Ymrwymiad gweithwyr i ofal cymdeithasol yng Nghymru

Bydd Dr Katy Huxley yn cyflwyno canfyddiadau arolwg gweithwyr gofal cymdeithasol, Dweud Eich Dweud 2026, gan ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw gweithwyr mewn gwaith gofal cymdeithasol. Byddwn yn trafod sut y daeth gweithwyr i wybod am waith gofal yn y lle cyntaf, beth sy’n eu cymell i weithio ym maes gofal cymdeithasol, ac a ydynt yn bwriadu gadael neu aros yn y sector. Mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn weithlu ymroddedig iawn, sydd wedi’u cymell i wneud gwahaniaeth i fywyd pobl.

Chwilfrydig am Ofal? Gwneud recriwtio seiliedig ar werthoedd yn realiti mewn gofal cartref

Mae Chwilfrydig am Ofal yn blatfform i helpu ymgeiswyr â’u dealltwriaeth o ofal cartref, ac i reolwyr recriwtio asesu gwerthoedd ymgeiswyr ar gyfer y rôl. Bydd Dr Mark Wilberforce yn crynhoi’r datblygiad a’r gwerthusiad hyd yn hyn ac yn darparu rhagor o wybodaeth am sut i gael at yr adnodd am ddim.

“Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud”: Archwilio Profiadau Pobl Ifanc o Weithio ym maes Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Bydd Dr Richard Gater yn adrodd ar ganfyddiadau astudiaeth Dweud Eich Dweud 2026, a archwiliodd brofiadau pymtheg o weithwyr gofal uniongyrchol 30 oed ac iau sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Defnyddir y term ‘gweithwyr gofal uniongyrchol’ i gyfeirio at bobl mewn swyddi gofal cymdeithasol rheng flaen, fel cynorthwywyr gofal, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal, a gweithwyr cymorth. At ei gilydd, mae’r canfyddiadau’n dangos diffyg dyhead cychwynnol i fynd i waith gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, ar ôl ymuno â’r sector, canfu cyfranogwyr fod y gwaith yn fuddiol oherwydd ei fod yn galluogi iddynt wneud gwahaniaeth i fywyd pobl, sy’n codi cwestiynau pwysig ynghylch sut i ddenu pobl ifanc yn uniongyrchol i waith gofal cymdeithasol.

Bwrw Golwg ar y Siaradwr:

Mae Dr Katy Huxley yn Gymrawd Ymchwil ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd gyda diddordebau mewn addysg, profiadau’r gweithlu, llywodraethu ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

Mae Dr Mark Wilberforce yn Athro Cyswllt Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Birmingham gyda diddordeb arbennig mewn ymchwil i’r gweithlu.

Mae Dr Richard Gater yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda diddordebau academaidd mewn gwrywdod, rhywedd, addysg, cyflogaeth, dosbarth cymdeithasol, ac iechyd a lles.

Mae’r Athro Paul Willis yn athro gofal cymdeithasol i oedolion, yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion.