Cyflwyniad:
Mae’r prosiect ymchwil hwn yn edrych ar y problemau a’r heriau mae pobl sy’n byw gyda HIV (50 oed a throsodd) weithiau yn eu profi os oes angen gofal a chymorth arnyn nhw yn ddiweddarach mewn bywyd, a chymorth gydag opsiynau sy’n ymwneud â thai. Mae nifer y bobl hŷn sy’n byw gyda HIV yn cynyddu yn unol â’r niferoedd cynyddol o bobl hŷn yn y DU. Rydyn ni’n gwybod o ymchwil a gynhaliwyd mewn gwledydd eraill y tu allan i’r DU yn bennaf bod rhai pobl hŷn â HIV yn profi stigma ac yn destun gwahaniaethu wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth i gleifion hŷn. Nid ydyn ni’n gwybod llawer am y sefyllfa yn y DU nac am brofiad pobl hŷn sydd â HIV sy’n ceisio cymorth gofal cymdeithasol neu gymorth gyda thai a byw’n annibynnol. Mae ein hastudiaeth wedi’i lleoli yng Nghymru, sydd â’i Chynllun Gweithredu a Strategaeth HIV ei hun ar gyfer Pobl Hŷn.
Cefndir:
Nod yr astudiaeth hon yw adnabod y prif faterion sy’n ymwneud â gofal, tai, a heneiddio i bobl 50 oed a hŷn yng Nghymru sy’n byw gyda HIV, o safbwyntiau’r rhai sydd â phrofiad byw a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n rhoi cymorth uniongyrchol.
Ein cwestiynau ymchwil yw:
- Beth yw profiadau a phryderon heneiddio pobl 50 oed ac uwch (50+) sy’n byw gyda HIV?
- Beth yw anghenion a blaenoriaethau tai a gofal cymdeithasol pobl 50+ oed sy’n byw gyda HIV?
- Beth yw’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymarfer ac ymchwil yn y dyfodol?
Gwnaethon ni gynnal cyfarfod yn ystod haf 2024 gyda rhanddeiliaid (gan gynnwys pobl sy’n byw gyda HIV) am y pwnc hwn sydd wedi bod yn sail i’r cais hwn.
Rydyn ni’n bwriadu recriwtio a gweithio gyda grŵp bach o bobl sy’n byw gyda HIV fel cyd-ymchwilwyr. Bydd y grŵp hwn yn helpu gyda’r gwaith o gynllunio offer ymchwil, cynnal rhai cyfweliadau â phobl eraill sydd â phrofiad byw, a rhoi mewnbwn ar sut rydyn ni’n edrych ar y data ac yn adnabod canfyddiadau allweddol.
Dulliau astudio a gweithgareddau:
Mae dau becyn gwaith.
Pecyn Gwaith 1) bydd Adolygiad Cwmpasu yn cael gynnal i fapio’r llenyddiaeth bresennol ar y pwnc, gan adnabod cysyniadau allweddol, mathau o dystiolaeth, a bylchau penodol yn yr ymchwil.
Pecyn Gwaith 2) Astudiaeth DELPHI: Byddwn yn rhoi dull Delphi tri cham ar waith i adnabod a blaenoriaethu materion allweddol sy’n effeithio ar bobl 50 oed a hŷn sy’n byw gyda HIV, yn ogystal â’r rhai sy’n rhoi cymorth uniongyrchol iddyn nhw. Bydd cyd-ymchwilwyr sy’n byw gyda HIV yn cael eu hyfforddi i gynorthwyo gyda chyfweliadau a gwaith dadansoddi data i helpu gyda’r gwaith casglu data.
Cam 1. Adnabod materion: Byddwn yn cynnal cyfweliadau lled-strwythuredig i adnabod materion allweddol sy’n wynebu pobl â HIV sy’n heneiddio. Bydd poblogaeth yr astudiaeth yn cynnwys pobl 50 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru ac yn byw gyda HIV (n=25) a’r rhai sy’n rhoi cymorth uniongyrchol iddyn nhw, gan gynnwys gweithwyr arbenigol HIV, gweithwyr cymdeithasol, a staff cymorth gofal cymdeithasol (n=24).
Cam 2. Blaenoriaethu materion allweddol: Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar flaenoriaethu’r materion allweddol a nodwyd yng Ngham 1 drwy weithdy ac arolwg ar-lein.
Cam 3. Cyfarfod Consensws: Bydd y trydydd cam yn cynnwys cyfarfod consensws i adolygu a chwblhau’r eitemau a flaenoriaethwyd. Bydd y cyfarfod hwn yn rhoi fforwm strwythuredig i randdeiliaid drafod pob mater yn fanwl, gan anelu at ddod i gonsensws ar y materion pwysicaf a datblygu strategaethau y gellir eu rhoi ar waith.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan CARE ar y cyd â’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Arweinwyr Ymchwil:
Yr Athro Paul Willis – cyd-arweinydd, CARE, Prifysgol Caerdydd
Dr Adam Williams – prif ymchwilydd, Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau:
Dr David Gillespie, Prif Gymrawd Ymchwil / Cyd-gyfarwyddwr (Uned Firoleg Gymhwysol Cymru – cyd-ymchwilydd
Mr. Neil Llewellyn-Griffiths, UNITY Counselling & Psychotherapy – cyd-ymgeisydd cyhoeddus
Ariannwr / Arianwyr: Ymchwil lechyd a Gofal Cymru
Swm y Cyllid: £285,879.00
Dyddiad dechrau’r prosiect: 01/10/2025
Dyddiad gorffen y prosiect: 30/09/2027
Canfyddiadau: Yn parhau

