Mae CARE yn adeiladu ar hanes blaenorol o ymchwil ar ofal cymdeithasol oedolion, a’r rhyngwyneb iechyd-gofal cymdeithasol, o bob rhan o Brifysgol Caerdydd. Ein prif bynciau yw:
- Gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth gofal cymdeithasol,
- Dementia a chyflyrau hirdymor,
- Anableddau dysgu, niwroamrywiaeth ac anawsterau dysgu,
- Lleoliadau tai a gofal hirdymor i bobl hŷn,
- Pontio i wasanaethau oedolion a gofal cymdeithasol i oedolion,
- Rheoli’r gweithlu a darparu gofal,
- Technoleg, gofal cymdeithasol a lles, a
- Henaint, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol.