Teitl y prosiect:
Pennu’r Arferion Ataliol Gorau ym maes Gofal Cymdeithasol (Astudiaeth DBPSCP)
Arweinwyr Ymchwil:
Dr Simon Read
Arweinwyr Ymchwil:
- Yr Athro Fiona Verity – Prifysgol Brunel
- Yr Athro Mark Llewellyn – Prifysgol De Cymru
- Dr Gideon Calder – Prifysgol Abertawe
- Yr Athro Jonathan Richards – Prifysgol De Cymru
Cyllidwr/Cyllidwyr: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Swm cyllid: £299,992
Dyddiad dechrau’r prosiect: 01/10/2021
Dyddiad gorffen y prosiect: 31/03/2025
Cyflwyniad:
Mae’r astudiaeth hon yn trin a thrafod dulliau atal ym maes gofal a chymorth cymdeithasol. Rydyn ni’n ystyried sut y mae dulliau atal yn cael eu deall a’u rhoi ar waith mewn sampl o ranbarthau ledled Cymru. Rydyn ni’n edrych ar sut y mae’r materion hyn yn effeithio ar bobl hŷn sy’n derbyn gofal a chymorth yn y cartref, a’r rhai sy’n byw gyda dementia.
Cefndir:
Mae atal wedi dod yn egwyddor ganolog ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal, ledled y DU. O ran deddfwriaeth, mae hyn wedi arwain at y Ddeddf Gofal yn Lloegr neu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yng Nghymru; sy’n rhoi rhwymedigaethau statudol ar lywodraethau i roi dulliau atal ar waith. Er hynny, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod yr ymgyrch ddeddfwriaethol hon yn aml yn cynnwys ‘hyblygrwydd diffiniadol’ sy’n cysylltu dulliau atal â nifer o agendâu ar yr un pryd: lles unigolion; gweithio mewn partneriaeth ar systemau; datblygu a gwytnwch cymunedol; arbed costau statudol; a gofynion ariannol. Nid yw’r holl agendâu hyn yn cyd-fynd yn hawdd â’i gilydd ac felly mae lle i ddehongli atal mewn sawl ffordd, yn enwedig yng nghyd-destun gofal cymdeithasol a phobl hŷn.
Dulliau astudio a gweithgareddau:
Mae’r astudiaeth yn dilyn chwe cham ymchwil a bydd y canfyddiadau’n helpu i gyfrannu at ddatblygu pecyn cymorth arferion gorau. Bydd hyn yn cynnig safbwynt ar sail tystiolaeth ar y ffordd orau o ystyried, diffinio a rhoi gofal cymdeithasol ataliol ar waith, a’r ffactorau sy’n gysylltiedig ag arferion gorau hefyd.
Ar sail y dystiolaeth bresennol o anghysondebau yn y maes hwn, bydd y camau cyntaf o’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar sut y mae atal yn cael ei ddehongli a’i roi ar waith ar hyn o bryd ym mhob un o’r rhanbarthau yn y sampl, sut y mae hyn wedi digwydd, a ble mae gweithgarwch atal cyfredol yn eistedd yng nghyd-destun y model gwaith atal a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Cewch drosolwg o’r model hwn ym Mlwch 1.
Diffiniad Mae gweithgareddau atal cychwynnol yn cael eu cyfeirio at y boblogaeth gyffredinol ac yn ceisio atal problemau cyn iddyn nhw ddigwydd. Caiff gweithgareddau atal eilaidd sy’n canolbwyntio ar risg uchel eu cynnig i boblogaethau sydd â ffactorau risg sy’n gysylltiedig â phroblemau penodol. Mae gweithgareddau atal trydyddol yn canolbwyntio ar broblemau sydd eisoes wedi digwydd ac yn ceisio lleihau’r goblygiadau negyddol a’u hatal rhag digwydd eto.
Blwch 1: Diffiniadau o Atal Cychwynnol, Atal Eilaidd ac Atal Trydyddol
Yn dilyn hynny, drwy arsylwi a chynnal cyfweliadau â staff mewn gwasanaethau rhanbarthol, byddwn ni’n trin a thrafod sut y mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, sefydliadau gwirfoddol a phreifat yn rhyngweithio er mwyn rhoi gwaith ataliol yn eu rhanbarth ar waith. Byddwn ni’n arsylwi sut mae gwasanaethau ataliol yn rhyngweithio â defnyddwyr eu gwasanaeth, ac yn cyfweld â defnyddwyr eu gwasanaeth â’u gofalwyr ynghylch y gofal a’r cymorth y maen nhw’n eu derbyn neu’n rhoi. Bydd y gwaith hwn yn ceisio deall sut, ac ym mha ffyrdd, y mae’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau yn teimlo eu bod yn helpu i atal deilliannau iechyd neu les gwaeth. Bydd yr astudiaeth yn dadansoddi materion sy’n gysylltiedig â throsi polisi atal yn realiti bob dydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, a nodi enghreifftiau o arferion llwyddiannus ac aflwyddiannus, yn ogystal â’r amodau sy’n cael effaith ar hyn.
Canfyddiadau:
Mae’r astudiaeth yn mynd rhagddi
Findings:
Study ongoing
Further information:
NIHR Online Seminar: Prevention in Social Care (Insights from Welsh research)
Social Inclusion article on prevention and community development in Wales