Cydbwyso Ymreolaeth a Risg wrth Ymarfer Gofal Cymdeithasol

Teitl y prosiect:

Cydbwyso Ymreolaeth a Risg wrth Ymarfer Gofal Cymdeithasol

Arweinwyr Ymchwil:

Dr Jeremy Dixon – Darllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol, CARE

Aelodau o’r tîm ymchwil a chydweithrediadau:

  • Dr Sally Hewlett – Adran Addysg, Prifysgol Caerfaddon
  • Dr David Frances Hunt – Adran Seicoleg, Prifysgol Caerwysg
  • Yr Athro Judy Laing – Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bryste

Cyllidwr/Cyllidwyr: GW4

Swm cyllid: £4976.20

Dyddiad dechrau’r prosiect :Ionawr 2025

Dyddiad gorffen y prosiect: Mehefin 2025

Cyflwyniad:

Mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn wynebu heriau moesegol ac ymarferol sylweddol wrth gydbwyso ymreolaeth a risg. Mae’r gyfraith bresennol yn nodi bod gan bob unigolyn hawl i ymreolaeth, gyda’r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi na ddylid barnu bod unigolion yn brin o alluedd oherwydd eu bod yn gwneud ‘penderfyniadau annoeth’. Fodd bynnag, rhoddir dyletswyddau i Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr hefyd i amddiffyn ‘oedolion mewn perygl’ rhag camdriniaeth neu esgeulustod (proses a elwir yn ‘diogelu oedolion’). Mae cyfraith achosion yn y maes hwn yn gymhleth, sy’n golygu bod ymarferwyr yn wynebu heriau ymarferol. Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r mater trwy adolygiad llenyddiaeth a digwyddiad cymunedol gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol ac arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol. 

Overview: 

Ariennir y prosiect hwn gan GW4, sy’n cefnogi cydweithrediadau gan Brifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.  Mae GW4 yn cefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.  Ariennir y prosiect hwn gan wobr datblygu GW4, sy’n cefnogi datblygiad cydweithrediadau drwy un gweithgaredd. 

Cynhelir y prosiect rhwng mis Ionawr a Mehefin 2025.  Fe’i harweinir gan Dr Jeremy Dixon o’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd gyda Dr David Frances-Hunt (Prifysgol Caerwysg), Dr Sally Hewlett (Prifysgol Caerfaddon) a’r Athro Judy Laing (Prifysgol Bryste). 

Yn ystod y prosiect, bydd y tîm yn cynnal adolygiad llenyddiaeth, wedi’i lywio gan egwyddorion realaidd.  Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwn yn cael eu cyflwyno i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol ac arweinwyr gofal cymdeithasol mewn digwyddiad ymgynghori.    Bydd y digwyddiad ymgynghori yn creu lle ar gyfer deialog, cymhellion a rennir, a dysgu.  Bydd y digwyddiad yn cael ei ddefnyddio i nodi problemau ymarfer sy’n digwydd wrth gydbwyso ymreolaeth a diogelu a’r hyn y mae angen i ymchwilwyr ganolbwyntio arno er mwyn gwella ymarfer yn y maes hwn. 

Cefndir:

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 wedi cael ei hystyried fel deddfwriaeth bwysig yng Nghymru a Lloegr ac mae’n rheoleiddio penderfyniadau personol i oedolion ynghylch eu hiechyd, lles, eiddo a’u materion.  Mae’r Ddeddf yn bwysig i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl gan ei bod yn amddiffyn eu hawliau i wneud penderfyniadau ag ymreolaeth, tra’n nodi hefyd yr amddiffyniadau ddylai fod yn berthnasol iddynt os nad oes ganddynt allu meddyliol i wneud hynny. 

Er bod yr hawl unigol i ymreolaeth yn cael ei diogelu drwy Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, rhoddir dyletswyddau i Awdurdodau Lleol hefyd i amddiffyn pobl rhag niwed yng Nghymru a Lloegr (proses a elwir yn ‘diogelu oedolion’).  Rhoddir y dyletswyddau hyn o dan Ddeddf Gofal 2014 yn Lloegr a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yng Nghymru (sy’n nodi sut y dylai awdurdodau lleol weithio gydag oedolion ag anghenion gofal a chymorth sy’n profi, neu sydd mewn perygl o brofi camdriniaeth ac esgeulustod).  Mae adolygiadau achosion difrifol (sydd bellach yn cael eu galw’n adolygiadau diogelu oedolion) wedi nodi diffyg consensws ynghylch sut y dylai gwasanaethau gysoni parch priodol at ymreolaeth yn erbyn dyletswydd i amddiffyn unigolion os nad ydynt yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain(Plymouth Safeguarding Adults Board, 2017, Braye et al., 2015).

Mae’r Llys Amddiffyn wedi cydnabod yr heriau ynghylch cydbwyso diogelwch ac ymreolaeth (yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol) wrth amddiffyn oedolion agored i niwed rhag dylanwadau niweidiol neu ymddygiad peryglus (MN v Cyngor Dinas A [2021] EWCOP 62).  Mae’r egwyddorion hefyd yn berthnasol i ymarfer rhyngwladol gan fod fframweithiau hawliau dynol rhyngwladol, megis Confensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yn rhoi dyletswydd ar weithwyr proffesiynol i barchu ymreolaeth pobl anabl, tra’n eu hamddiffyn rhag camdriniaeth(Fallon-Kund et al., 2017).  Ymhellach i hynny, mae ymchwil yn awgrymu bod ymagweddau asesu a rheoli risgiau proffesiynol yn amrywiol, a bod angen canllawiau i gynorthwyo staff yn well wrth gydbwyso risg, diogelwch ac ymreolaeth(Clemens and Hayes, 1997, Dickens et al., 2023). Yn ychwanegol i hyn, mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar farn defnyddwyr gwasanaeth ar alluedd meddyliol a gwneud penderfyniadau am ddiogelu oedolion yn hynod brin.(see, Dixon, 2023)

I grynhoi, mae ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn aml yn wynebu heriau moesegol ac ymarferol sylweddol wrth gydbwyso ymreolaeth a risg.  Nod ein tîm amlddisgyblaethol yw creu sylfaen ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn. Byddwn yn adolygu ymchwil bresennol a llenyddiaeth lwyd, ac yn dod â chymuned o ymarferwyr ynghyd sy’n cynnwys ymchwilwyr, rhanddeiliaid, ac unigolion sydd â phrofiad bywyd go iawn. Bydd hyn yn helpu i strwythuro ein dull gweithredu, cynnig mewnwelediadau gwerthfawr, a bod yn sail i’r dyfodol

BRAYE, S., ORR, D. A PRESTON-SHOOT, M. 2015. Learning lessons about self-neglect? An analysis of serious case reviews. The Journal of Adult Protection, 17, 3-18.

DEDDF GOFAL 2014.

CLEMENS, EL A HAYES, H.E. 1997. Assessing and balancing elder risk, safety and autonomy: Decision-making practices of health care professionals. Home Health Care Services Quarterly, 16, 3-20.

DICKENS, G. L., AL MAQBALI, M., HALLETT, N., ION, R., KEMP, C., SCHOULTZ, M. AC WATSON, F. (2023) Mental health nurses’ attitudes towards risk assessment: An integrative systematic review. Journal of Psychiatric and Mental Health Nursing, 30, 1137-1151.

DIXON, J. (2023) Adult Safeguarding Observed: How Social Workers Assess and Manage Risk and Uncertainty, Bryste, Policy Press.

FALLON-KUND, M., COENEN, M. A BICKENBACH, J. E. 2017. Balancing autonomy and protection: A qualitative analysis of court hearings dealing with protective measures. International Journal of Law and Psychiatry, 53, 69-76.

DEDDF GALLUEDD MEDDYLIOL 2005 

BWRDD DIOGELU OEDOLION PLYMOUTH 2017. Safeguarding Adult Review.  Ruth Mitchell. Plymouth: Bwrdd Diogelu Oedolion Plymouth.

DEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014 

Dulliau astudio a gweithgareddau:

Drwy greu cymuned ymarfer ar draws ymchwil a gofal cymdeithasol, byddwn yn nodi’r berthynas rhwng y bylchau o ran ymchwil ac anghenion gwasanaethau cymdeithasol, a chyfleoedd i drosoli cyllid. Nod y wobr ddatblygu hon yw: 

  • Cynnal adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth, gan nodi canllawiau cyfreithiol cyfredol ar y mater hwn, yr hyn y mae canllawiau ymarfer cyfredol yn ei awgrymu yn ogystal ag ymchwil berthnasol yn yr ardal.     
  • Cynnal digwyddiad ymgynghori undydd gyda rhanddeiliaid allweddol (unigolion sydd â phrofiad bywyd go iawn o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, gofalwyr, gweithwyr gofal cymdeithasol heb gymhwyso, gweithwyr cymdeithasol, prif weithwyr cymdeithasol/gweithwyr cymdeithasol ymgynghorol, rheolwyr a chomisiynwyr). 

Canfyddiadau: 

Parhaus

Rhagor o wybodaeth:

Dim byd eto.