Cyflwyniad
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddeall y risgiau a’r niwed a brofir gan bobl sy’n derbyn neu’n darparu gofal cartref, ac mae’n cael ei arwain gan y Prif Ymchwilydd, yr Athro Andrew Carson-Stevens. Mae tîm yr astudiaeth yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd sydd â phrofiad o ofal cartref, a chydweithwyr sydd â phrofiad o ofal cymdeithasol, y gyfraith a gofal iechyd o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol Llundain.
Cefndir
Mae cymdeithas sy’n heneiddio, gyda mwy o gyflyrau iechyd hirdymor, yn golygu bod angen gofal ar fwy o bobl. Mae pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymdeithasol wedi arwain at fwy o ofal yn cael ei ddarparu yng nghartrefi pobl (gofal cartref). Mae’r cartref yn rhywle nad yw’n cael ei reoleiddio na’i reoli, lle gall pobl sy’n gallu deall manteision ac anfanteision gofal cartref a rhannu eu dymuniadau (a elwir yn alluedd) arfer eu hawl i gymryd risgiau. Gall hyn effeithio ar eu diogelwch, ond hefyd ar rôl gofalwyr di-dâl (fel aelodau o’r teulu, er enghraifft), sy’n aml yn darparu gofal heb hyfforddiant ffurfiol, yn ogystal â gweithwyr gofal cartref cyflogedig.
Mae gweithgareddau a gyflawnir gan ofalwyr cyflogedig, sy’n gweithio ar eu pen eu hunain i raddau helaeth heb ddigon o gefnogaeth, yn dod yn fwy cymhleth. Mae llawer o bobl sy’n derbyn gofal cartref (sef defnyddwyr gwasanaeth), teuluoedd a gweithwyr gofal yn poeni am ddiogelwch, risgiau, a manteision a niwed gofal cartref.
Er bod gwybodaeth am ddiogelwch, risgiau a niwed yn cael ei chasglu, nid oes ffordd effeithiol o adolygu a deall yr hyn a adroddir fel mater o drefn, i nodi ble a sut i wneud gwelliannau i ofal. Hefyd, nid oes cytundeb ar ystyr ‘diogel’ na sut y dylid delio â blaenoriaethau sy’n gwrthdaro. Heb hyn, mae’n anodd gwybod pryd mae gofal yn anniogel a sut y gellir osgoi hyn, ac nid yw’r rhai sy’n gyfrifol yn gwybod beth yw’r problemau mwyaf cyffredin neu ddifrifol. Mae deall y problemau hyn yn bwysig er mwyn gwella gofal yn y cartref.
Dylai pobl gael gofal diogel ar gyfer pob agwedd ar eu hanghenion gofal. Byddwn ni’n helpu dylunwyr gofal, arianwyr, llunwyr polisi a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau i ddeall beth all fynd o’i le, i bwy, pryd a sut, er mwyn lleihau risgiau yn y dyfodol.
Dulliau astudio a gweithgareddau
Nod yr astudiaeth hon yw deall y risgiau a’r niwed a brofir gan bobl sy’n darparu ac yn derbyn gofal yn y cartref a sut y gellir eu lleihau.
Byddwn ni’n:
- Edrych ar y llenyddiaeth sydd ar gael i ddeall sut mae diogelwch yn cael ei ddeall mewn gofal cartref.
- Adolygu adroddiadau diogelwch a ysgrifennir gan weithwyr gofal cartref yng Nghymru i ddeall y problemau y rhoddir gwybod amdanynt amlaf a pham maen nhw wedi digwydd.
- Siarad â defnyddwyr gofal a’u teuluoedd/ f frindiau/pobl eraill sy’n cefnogi eu gofal o bob cwr o Gymru, er mwyn deall eu pryderon diogelwch.
- Siarad â phobl sy’n gyfrifol am ofal cartref (e.e. rheolwyr, llunwyr polisi, gofalwyr, arolygwyr ym mhob un o bedair gwlad y DU) i ddeall sut mae niwed yn digwydd/cael ei atal, a sut maen nhw’n cydbwyso’r risg o niwed gyda’r manteision posibl i ddarparu gofal sy’n diwallu anghenion defnyddwyr.
Gweithgareddau cynnwys y cyhoedd
Gwnaeth tri gofalwr sydd ag aelodau o’r teulu y mae angen gofal cartref arnynt ein helpu i gynllunio’r astudiaeth. Fel cyd-ymgeiswyr, maent yn rhan o dîm yr astudiaeth a byddant yn mynychu ein cyfarfodydd astudio ac yn ein harwain ar benderfyniadau allweddol megis recriwtio cyfranogwyr o gymunedau amrywiol, y cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn, a sut rydyn ni’n rhannu canlyniadau’r astudiaeth gyda gwahanol grwpiau (yn enwedig o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol).
Cyfrannodd defnyddwyr gwasanaeth ychwanegol, gofalwyr di-dâl a chyflogedig, a chynrychiolwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru at gynllunio ein hastudiaeth. Dywedon nhw wrthym nad oes angen ‘mwy o reolau’ ar weithwyr gofal cartref, a’u bod nhw’n ei chael hi’n anodd eu cymhwyso. Yn hytrach, maen nhw’n chwilio am egwyddorion a’r gallu i wneud penderfyniadau y mae eu cyflogwyr (a sianeli swyddogol fel rheoleiddwyr ac arolygwyr) yn eu cefnogi fel y gallant ddefnyddio’r rhain yn y byd go iawn i ddarparu gofal sy’n gwneud gwahaniaeth i’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae llawer o uwch-benderfynwyr o Gymru a’r gwledydd datganoledig wedi cytuno i fynychu ein digwyddiadau lledaenu gwybodaeth i randdeiliaid neu ein grŵp llywio annibynnol, ac rydyn ni’n anelu at rannu ein canfyddiadau’n eang.
Arweinwyr Ymchwil:

Yr Athro Andrew Carson-Stevens, Athro Diogelwch Cleifion, Prifysgol Caerdydd
Cysylltiad CARE:
Mae CARE ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cefnogi’r prosiect hwn o ran recriwtio a chefnogaeth i’n tri chydymgeisydd cyhoeddus, a recriwtio i’n grŵp cynghori cleifion/ aelodau cyhoeddus ar gyfer pwyllgor llywio’r astudiaeth.
Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau:
- Dr Joy McFadzean, Darlithydd Clinigol Diogelwch Cleifion, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Paul Willis, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
- Dr Alison Tarrant, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd
- Dr Matthew Smith, Yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd
- Miss Delyth Price, Yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd
- Dr Aled Davies, Yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd
- Dr Deborah Morgan, Prifysgol Abertawe
- Dr Maria Cheshire-Allen, Prifysgol Abertawe
- Dr Sarah Yardley, Coleg Prifysgol Llundain
- Mr Rashmi Kumar, cyd-ymgeisydd cyhoeddus
- Ms Marie-Claire Hunter, cyd-ymgeisydd cyhoeddus
- Ms Sian Harding, cyd-ymgeisydd cyhoeddus
Ariannwr/Arianwyr:
NIHR HS&DR 23/90 Gwerthuso trefniadaeth, darpariaeth ac ansawdd gwasanaethau gofal cartref
Swm:
£798,823
Dyddiad dechrau’r prosiect
Mawrth 2025
Dyddiad gorffen y prosiect:
Chwefror 2027
Findings:
Ongoing
