Labordy Data sy’n Gysylltiedig â Gofal Cymdeithasol (Labordy CARE)

Cysylltiad CARE:

Dan arweiniad CARE

Arweinwyr Ymchwil:

Cyd-arweinwyr

Jonathan Scourfield (CARE)

Fiona Lugg-Widger (Canolfan Ymchwil Treialon)

Aelodau o’r tîm ymchwil a chydweithrediadau:

Ashley Akbari, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe

Rebecca Cannings-John, Canolfan Ymchwil Treialon

Matthew Curds, Llywodraeth Cymru

Miranda Evans, Anabledd Cymru

Jose-Luis Fernandez, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain

Melissa Meindl, CARE

Lisa Trigg, Gofal Cymdeithasol Cymru

Nell Warner, CASCADE, Caerdydd

Paul Willis, CARE

Ariannwr/Arianwyr: Rhaglen Ymchwil NIHR ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Swm: £1,441,577

Dyddiad dechrau’r prosiect: 1 Ebrill 2025

Dyddiad gorffen y prosiect: 31 Mawrth 2028

Cyflwyniad:

Nod Labordy CARE yw hyrwyddo dealltwriaeth o’r boblogaeth sy’n derbyn gofal a chymorth fel bod hynny o gymorth wrth gynllunio gwasanaethau a strategaethau i leihau anghydraddoldebau. Ar ben hynny, mae am ddangos gwerth data gweinyddol cysylltiedig ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion yn ogystal ag asesu cyfyngiadau.

Mae cwestiynau’r ymchwil fel a ganlyn:

  • Pa fath o ofal a chymorth y mae oedolion yng Nghymru yn ei gael? Sut mae hyn yn amrywio yn ôl nam/cyflwr, nodweddion cymdeithasol-demograffig, cyfrifoldebau gofalu ac ALl?  
  • Beth yw nodweddion yr oedolion yng Nghymru sy’n cael gofal a chymorth, o’u cymharu â gweddill y boblogaeth? (rhyw ar adeg eu geni, hunaniaeth rhywedd, rhywioldeb, oedran, grŵp ethnig, crefydd, cyfansoddiad y cartref, dewis iaith, amddifadedd ar lefel yr ardal). Sut mae hyn yn amrywio yn ôl nam/cyflwr a’r math o ofal a chymorth?  
  • I ba raddau y mae cymorth gofal cymdeithasol yn amrywio ar draws ardaloedd?  
  • Beth yw nodweddion y plant sy’n symud i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o’u cymharu â’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny?   
  • I ba raddau y gellir gwerthuso’r system gofal cymdeithasol drwy ddefnyddio data gofal gweinyddol cysylltiedig ar lefel unigol?  

Cefndir:

Ychydig iawn yr ydym yn ei wybod am y gofal cymdeithasol a ddarperir i oedolion ar hyn o bryd ar lefel genedlaethol ac, yn benodol, yr anghydraddoldebau o ran cael mynediad a diffygion cymorth. Mae hyn yng nghyd-destun trosiant uchel ymhlith staff, mwy o alw, ac effaith cyni. Gall dod â gwybodaeth ynghyd ar draws sectorau roi dealltwriaeth drylwyr, fel y dangosir eisoes ar gyfer y sector gofal cymdeithasol plant ac yn y sector iechyd. Mae data sydd wedi’i safoni’n genedlaethol am oedolion sy’n cael gofal a chymorth ar gael ledled y DU erbyn hyn. Fodd bynnag, nid yw’r data hwn wedi’i gysylltu eto er gwaethaf dyheadau’r Llywodraeth i wneud hynny. Yng Nghymru, mae’r cyfle i gael mynediad diogel at ddata ar lefel poblogaeth, sydd wedi’i gysylltu ar lefel unigol ar draws sectorau, eisoes wedi’i wireddu, ar wahân i ddata am ofal cymdeithasol i oedolion. Bydd yr astudiaeth arfaethedig hon yn integreiddio cyfrifiad Oedolion sy’n Cael Gofal a Chymorth Cymru (ARCS), a sefydlwyd yn ddiweddar, gyda data arall gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dros gyfnod o dair blynedd, ac ar draws pum pecyn gwaith, byddwn yn mynd i’r afael â’r nodau uchod. 

Dulliau astudio a gweithgareddau:

Ym mlwyddyn 1 byddwn yn cael fersiwn annibynnol o ddata ARCS 2023-24 (n≈50,000). Bydd hyn yn galluogi sesiynau briffio cyflym ar y boblogaeth yn ôl nodweddion allweddol a math o angen. Bydd data cysylltiedig o fewn amgylchedd ymchwil dibynadwy (Banc Data SAIL) ym mlynyddoedd 2 a 3 yn rhoi disgrifiad manylach o’r boblogaeth hon drwy gysylltu â data’r Cyfrifiad (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Bydd hyn yn caniatáu inni gymharu â phoblogaeth ehangach Cymru, a dilyn teithiau unigolyn drwy iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig o ofal cymdeithasol plant. Bydd cyfweliadau ansoddol (n = 60) yn cael eu cynnal yn gyfochrog i drafod gyda staff gofal cymdeithasol, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, y rhwystrau i gael gafael ar gymorth, a’r hyn sy’n eu galluogi. Bydd y cyfweliadau hyn yn galluogi dealltwriaeth a dehongliad dyfnach o’r canfyddiadau meintiol sy’n dod i’r amlwg.

Byddwn hefyd yn asesu pa mor ymarferol yw gwerthuso modelau gofal drwy ddefnyddio data cysylltiedig. Yn olaf, byddwn yn gwneud argymhellion ar gyfer casglu data yng Nghymru yn y dyfodol ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid pwysig ledled y DU i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu adnoddau tebyg yn y tair gwlad arall.

Gweithgareddau cynnwys y cyhoedd:

Bydd Grŵp Profiad Bywyd yn Labordy CARE yn cael ei recriwtio, i lywio’r holl becynnau gwaith. Ar gyfer yr ymchwil ansoddol, bydd pobl sydd â phrofiad o ofal a chymorth yn cymryd rhan mewn ymarferion cyd-gyfweld.

Canfyddiadau:

Parhaus