Gofal Clyfar: Gofal Clyfar â chyswllt cymdeithasol yn y cartref

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw gyda dementia yn y DU yn byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r rhan fwyaf yn dymuno byw yn eu cartrefi cyhyd â phosibl, ac mae polisi’r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar gynnal hynny. Yn gynyddol, ystyrir bod technoleg yn hanfodol i gyflawni’r nod hwn. Fodd bynnag, ein pryder yw y gall dibynnu ar dechnoleg i gynorthwyo pobl â dementia i fyw’n annibynnol gartref arwain at brofiadau negyddol o annibyniaeth, gyda mwy o bobl yn teimlo’n unig ac yn ynysig. 

Cefndir:

Mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar dechnolegau prif ffrwd fforddiadwy. Mae’r rhain yn dechnolegau sydd eisoes ar gael i’r defnyddiwr cyffredin. Gall hyn gynnwys pethau fel clychau drws, systemau goleuo neu dechnoleg camera clyfar. Er bod technolegau prif ffrwd fforddiadwy ar gael, nid pawb sy’n deall sut y gellir eu cyfuno i ddiwallu anghenion ymarferol a chymdeithasol gofal dementia. Mae hyn yn cynnwys cydbwyso blaenoriaethau gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia, oherwydd fe wyddom y gallen nhw fod yn rhoi gwerth ar bethau gwahanol mewn technoleg benodol.  

Y nod yw datblygu dealltwriaeth o’r manteision y gall technolegau eu cynnig er mwyn cynhyrchu gwybodaeth am werth posibl technoleg mewn gofal dementia. Rydym yn bwriadu ychwanegu mewnwelediadau ar sut y gall technolegau gefnogi pobl i gynnal ansawdd bywyd, parhau i fyw annibynnol, a gwella eu lles a’u cysylltedd cymdeithasol. Yn ei dro, gallai hyn helpu i integreiddio technolegau defnyddiol i fywydau pobl sy’n byw gyda dementia, fydd o ganlyniad yn fuddiol i ymyrraeth gofal cymdeithasol.

Dulliau astudio a gweithgareddau: 

Mae’r prosiect yn digwydd dros dri cham:  

Yn gyntaf, rydym ni’n nodi ac yn archwilio’r technolegau y mae pobl â dementia yn eu defnyddio gartref ar hyn o bryd. Ar y cam hwn, bydd dau ymchwilydd yn ymweld â phobl sy’n byw gyda dementia yn eu cartrefi i nodi’r technolegau y mae pobl yn eu defnyddio gartref, a chlywed mwy am sut y daeth pobl i ddefnyddio’r technolegau, a sut maen nhw’n eu defnyddio. 

Yn ail, byddwn yn cynnal gweithdai i rannu enghreifftiau o dechnoleg a thrafod sut mae pobl yn teimlo am eu defnyddio. Drwy’r gweithdai hyn, byddwn yn rhannu syniadau da am ddefnyddio technoleg gyda grwpiau ehangach.  

Yn drydydd, byddwn yn gweithio gyda nifer fach o gyfranogwyr i ddewis technolegau fydd yn addas i’w hanghenion, ac sy’n fodlon rhoi cynnig arnyn nhw yn eu cartrefi am ryw dri mis. Yna byddwn yn ymweld â’r cyfranogwyr yn eu cartrefi dros y tri mis i weld sut mae’r dechnoleg yn cael ei defnyddio. 

Yr amcan eang yw cynhyrchu tystiolaeth ar dechnolegau cartref clyfar fforddiadwy sy’n ddefnyddiol i bobl sy’n byw gyda dementia a chreu adnoddau hygyrch (fideos, comics, vignettes, ffeithlun) i helpu pobl sy’n chwilio am atebion technolegol i’w dewis a’u mabwysiadu mewn ffyrdd sy’n sensitif yn gymdeithasol ac yn foesegol. Byddwn hefyd yn creu’r canllawiau mewn ffordd sy’n parchu dewis a gallu pobl.

Cysylltiad CARE: 

Dan arweiniad CARE. 

Arweinwyr yr Ymchwil:  

Dr Roser Beneito-Montagut, Darllenydd mewn Cymdeithaseg, Prifysgol Caerdydd, Cyd-Brif Ymchwilydd 

Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil CARE, Prifysgol Caerdydd, Cyd-Brif Ymchwilydd,  

Dr Rebecca Oatley, Darlithydd Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, Cyd-Ymchwilydd 

Mrs Joy Findlay, Cynnwys a Chysylltiad y Cyhoedd a Chleifion (PPIE), Cyd-Ymchwilydd 

Dr Alex Hillman, Athro Cynorthwyol Cymdeithaseg, Prifysgol Caerwysg. Cyd-ymchwilydd 

Dr Andrew Woodhead, Cynnwys a Chysylltiad y Cyhoedd a Chleifion (PPIE), Cyd-Ymchwilydd 

Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau: 

Dr Shane Doheny, Cydymaith Ymchwil 

Cymdeithas Syndrom Down,  

Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,  

Byddardod Ymlaen, 

Canolfan Adnoddau Bywyd Nubian, 

Gofal Cymdeithasol Cymru, 

Cymdeithas Alzheimer 

Dyddiad dechrau’r prosiect: 1/04/2026 

Dyddiad gorffen y prosiect: 31/03/2028 

Canfyddiadau: 

Parhaus 

Rhagor o wybodaeth: 

https://blogs.cardiff.ac.uk/demtechconnect