Cyflwyniad
Gan ddechrau ym mis Mehefin 2025, mae’r prosiect 27 mis hwn yn anelu at wella dealltwriaeth o barodrwydd pobl sy’n gweithio mewn gofal cartref i gefnogi pobl hŷn (60 oed+) LHDTC+. Mae’r astudiaeth hon yn gydweithrediad newydd rhwng Prifysgol Caint (y sefydliad cynnal) a CARE a bydd yn cynnwys gweithwyr gofal cartref a phobl hŷn o Gymru a Lloegr. Mae prifysgolion eraill sy’n cymryd rhan yn cynnwys Prifysgol Birmingham a Phrifysgol South Bank Llundain.

Ystyr parodrwydd yw bod gan weithwyr gofal cartref y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder priodol i gefnogi’r boblogaeth LHDTC+. Ystyr LHDTC+ yw lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwîar, a grwpiau rhywioldeb a rhywedd lleiafrifol eraill.
Mae o leiaf 1 miliwn o bobl hŷn LHDTC+ yng Nghymru a Lloegr, felly mae’r mater hwn yn effeithio ar lawer o bobl. Mae astudiaethau cynharach yn dangos nad oes gan weithwyr gofal ddigon o sgiliau, gwybodaeth a hyder i gefnogi pobl hŷn LHDTC+. Roedd yr astudiaethau hyn yn canolbwyntio ar gartrefi gofal a thai gofal ychwanegol, ond nid oes unrhyw astudiaethau wedi edrych ar ofal cartref yn benodol.
Cefndir
Gwyddom o astudiaethau diweddar fod gan lawer o oedolion LHDTC+ lawer o bryderon ynghylch derbyn cymorth gofal cymdeithasol yn ddiweddarach mewn bywyd – pryderon yn ymwneud â thriniaeth elyniaethus, wahaniaethol gan weithwyr gofal, eu hanghenion gofal a’u hunaniaethau’n cael eu hanwybyddu a’u perthnasoedd yn cael eu diystyru, neu beidio â derbyn gofal o ansawdd da sy’n gwbl gynhwysol.
Mewn perthynas â darpariaeth gofal cartref, mae rhai pobl LHDTC+ yn nodi pryderon am orfod ‘dad-hoywi’ eu cartref eu hunain ac amddiffyn eu hunain rhag triniaeth homoffobig neu drawsffobig ddisgwyliedig. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn gwybod llawer am brofiadau pobl LHDTC+ sy’n derbyn cymorth gofal cartref yn uniongyrchol yn eu cartrefi eu hunain.
Y polisi cyfredol yw cefnogi pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi ger y cymunedau sy’n bwysig iddyn nhw cyhyd â phosibl. Mae’n bwysig deall pa mor barod yw gweithwyr gofal cartref i gefnogi’r boblogaeth hon, fel y gallwn wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Bydd hyn yn helpu gweithwyr gofal cartref i gynnig gofal cynhwysol a phersonoledig ac i gyflogwyr yn y sector sicrhau bod gweithwyr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth dda ar ofal cynhwysol.
Dulliau astudio a gweithgareddau
Bydd ein cynllun ymchwil yn cynnwys adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth bresennol ar gyfer unrhyw wybodaeth am barodrwydd pobl sy’n gweithio mewn gofal cartref, holiadur ar-lein i weithwyr a darparwyr gofal cartref am eu gwybodaeth LHDTC+ a’u sgiliau cyfredol, a chyfweliadau â gweithwyr gofal cartref a phobl hŷn LHDTC+ sy’n derbyn cymorth gofal cartref ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn cynnig yr opsiwn i bobl hŷn anfon llythyrau atom am eu profiadau o ofal cartref.
Gweithgareddau cynnwys y cyhoedd
Cafodd y cais ei lywio gan safbwyntiau pobl sy’n gweithio mewn gofal cartref ac yn rheoli gwasanaethau gofal cartref a phobl hŷn LHDTC+. Byddwn yn sefydlu grŵp o bobl hŷn LHDTC+ a fydd yn ein cynghori drwy gydol yr astudiaeth ar bob agwedd. Byddant hefyd yn ein helpu gyda’r cyfweliadau â phobl LHDTC+ ac yn gweithredu fel cyd-ymchwilwyr.
Cysylltiad CARE
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad newydd rhwng y Ganolfan Astudiaethau Gwasanaeth Iechyd ym Mhrifysgol Caint a CARE.
Cydarweiniwyd y cais gan Gyfarwyddwr CARE, Paul Willis.
Arweinwyr Ymchwil

Dr Jolie Keemink, Canolfan Astudiaethau Gwasanaeth Iechyd, Prifysgol Caint (arweinydd)

Yr Athro Paul Willis, CARE (cyd-arweinydd)
Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau
Mae’r sefydliadau sy’n cydweithio’n cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Sgiliau Gofal a Chymdeithas Gofal Cartref y DU ynghyd â chyd-ymchwilwyr o Brifysgol Birmingham a Phrifysgol South Bank Llundain.
Ariannwr/Arianwyr
Rhaglen Ymchwil Gofal Cymdeithasol NIHR
Swm
£507,169
Dyddiad dechrau’r prosiect
Mehefin 2025
Dyddiad gorffen y prosiect
Awst 2027

