Digwyddiad CARE: Grwpiau iechyd meddwl a lles dynion wedi’u hunan-drefnu – datblygiad cymdeithasol sy’n dod i’r amlwg

21 Ebrill

12:00 – 15:00

SBARC, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ

Rydym yn falch o’ch gwahodd i ddigwyddiad sy’n rhannu  canlyniadau ein harolwg a gynhaliwyd ddiwedd 2024 ar grwpiau iechyd meddwl a lles dynion yng Nghymru, ac yn gwahodd y sawl sy’n cymryd rhan i drafod y canfyddiadau a meysydd ffocws yn y dyfodol.

Mae hunanladdiad ymhlith dynion yn broblem iechyd cyhoeddus ddifrifol. Mae cyfradd hunanladdiad ymhlith dynion yn y DU dros dair gwaith yn uwch na chyfradd hunanladdiad ymhlith menywod. Mae llawer o wasanaethau iechyd meddwl a ariennir gan y wladwriaeth o dan y don, sy’n arwain at amseroedd aros hir am gymorth.

Ar yr un pryd, bu twf mewn grwpiau dan arweiniad y gymuned sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles dynion. Er bod y grwpiau hyn yn prysur dyfu, ychydig iawn o ymchwil sydd o hyd ar sut maen nhw’n cefnogi iechyd meddwl mewn gwirionedd.

Mae ein canfyddiadau’n dangos bod grwpiau dynion wedi’u hunan-drefnu yn darparu cefnogaeth emosiynol onest, yn dod i’r amlwg fel nodwedd newydd o hyrwyddo iechyd meddwl ar lefel y gymuned, ac mae’n bosibl y gallan nhw helpu cwrdd â’r galw am wasanaethau ffurfiol.