Dathlu gwaddol ymgyrchu gan fyfyrwyr a gofal i bobl ag anableddau dysgu

Y mis hwn, fe wnaeth CARE gynnal digwyddiad i nodi lansiad arddangosfa newydd dan arweiniad myfyrwyr sef, Gwasanaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd – Effaith Ymgyrchu Cymunedol, yn Adeilad Morgannwg. Digwyddiad oedd hwn i ddathlu gwaddol ymgyrchu cymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda ffocws penodol ar hanes tai a rennir i bobl ag anableddau dysgu. Cymru a arweiniodd y fenter hon, gan ddod yn wlad gyntaf yn y DU, ac o bosibl Ewrop, i gefnogi’r math hwn o fyw cymunedol.

Wrth siarad yn y digwyddiad, fe wnaeth Nick Palmer o Mencap dynnu sylw at berthnasedd parhaus yr hanes hwn. “Dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni ei or-hyrwyddo,” meddai. “Mae hon yn stori go iawn ac mae’n dal i fynd ymlaen ac yn newid hanes Prifysgol Caerdydd.” Myfyriodd Palmer ar sut mae sefydliadau megis Mencap wedi trawsnewid dros y blynyddoedd, gan addasu eu dulliau o ymdrin â gofal, cymuned a byw’n annibynnol. “Mae’r gymdeithas ei hun wedi esblygu hefyd ac wedi newid sut rydyn ni’n gofalu am ein gilydd,” meddai. “Yr hyn oedd bwysicaf oedd y cysylltiadau – dod â phobl ynghyd a chefnogi ei gilydd. Roedd llawer o’n haelodau mewn tai a rennir, ac fe welsom ni’r effaith ar fywydau pobl bob dydd.”

A white woman, Tracey Drew, and a white man, Simon Richards, speak to a group of people in the Cardiff University Glamorgan Building Committee Rooms about their memories of taking part in the Cardiff University Social Services Saturday Project which brought together student volunteers and young people with learning disabilities.
TRacey Drew a Simon Richards yn siarad yn nigwyddiad etifeddiaeth CUSS

Gwnaeth y cyn-fyfyrwyr gwirfoddol Tracey Drew a Simon Richards, a gymerodd ran ym Mhrosiect Sadwrn Gwasanaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, rannu myfyrdodau ar eu profiad yn y 1990au a sut mae’r prosiect wedi cael effaith barhaol arnyn nhw hyd heddiw. Daeth y fenter â myfyrwyr prifysgol a phobl anabl ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dros y penwythnos, tripiau a digwyddiadau cymdeithasol. I lawer oedd yn cymryd rhan, daeth y prosiect yn sylfaen ar gyfer hyder ac annibyniaeth gydol oes.

Roedd gan Simon atgofion melys am yr awyrgylch. “Y peth gorau oedd bod cydraddoldeb iddo,” meddai. “Dechreuodd yn rhywbeth i’m diddanu. Roedd fy rhieni wedi cael trafferth sicrhau cefnogaeth i mi, felly daeth hyn ar yr amser perffaith.” Bu’n hel atgofion am deithiau cofiadwy – o benwythnosau yn Sir Benfro i antur ffrind yn Disneyland Paris – a’r cyfeillgarwch a ddylanwadodd arno. “Ar y pryd doeddwn i ddim wedi sylweddoli, ond fe wnaeth fy helpu i sefydlu’r hyn rwy’n ei wneud nawr.” Bellach yn gerddor ac wedi bod yn byw mewn tai â chymorth ers 11 mlynedd, myfyriodd Simon ar yr effaith hirdymor: “Nid yw wedi bod yn berffaith, ond mae wedi bod yn gam enfawr tuag at fywyd mwy annibynnol.”

Rhannodd Tracey fyfyrdodau tebyg. “Rhoddodd ymdeimlad i mi o gael perthynas symbiotig â phobl anabl, oherwydd fe wnaethon ni rannu’r profiad gyda’n gilydd,” meddai. “Roedden ni’n gweithio ochr yn ochr â’n gilydd – nid yn gwneud pethau i bobl.” Fel llawer o fyfyrwyr a gymerodd ran, datblygodd Tracey gyfeillgarwch, safbwyntiau newydd, a gwybodaeth ddyfnach am Gymru drwy’r prosiect. “Dangosodd i mi hefyd ei fod yn bosibl,” ychwanegodd.

I Simon, mae cadw a rhannu’r hanes hwn yn bersonol iawn. “Rwy’n teimlo ei fod yn rhan bwysig o hanes Prifysgol Caerdydd ac i mi,” meddai. “Mae wedi helpu i lunio pwy ydw i nawr. Mae’n braf ail-fyw’r atgofion hynny a’u defnyddio i barhau i ddod yn gryfach.”

Cynhaliwyd ymchwil Erina Butler yn ystod ei interniaeth Haf gyda CARE a CASCADE.

Three white women stand in front of a large poster with the title "The Legacy of Cuss: A Summer Internship".
Roser Beneito-montagut a Nell Warner, o Bwyllgor Cydraddoldeb Anabledd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol gyda’r fyfyrwraig Erina Butler

Noddwyd y digwyddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb Anabledd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol sy’n gweithio i sicrhau cydraddoldeb anabledd i bawb sy’n ymwneud â’r ysgol ac yn hyrwyddo hawliau’r rhai ag anableddau.

Mae’r arddangosfa’n parhau ar agor yn Adeilad Morganwg, gan ddathlu’r etifeddiaeth hon sydd wedi bod yn hanfodol wrth lunio bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd a’r DU.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *