Roedd y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion wrth eu bodd ar ôl i waith ein Grŵp Profiad Bywyd gael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025 yn y categori Ymglymiad y Cyhoedd. Cyhoeddwyd y wobr yng nghynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eleni.
Llongyfarchiadau mawr i’n cydweithwyr gwych yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant a enillodd y wobr am eu Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni.
Dim ond ei ben-blwydd cyntaf y dathlodd ein Grŵp Profiad Bywyd eleni, ac mae’r grŵp eisoes wedi meithrin dull sy’n rhoi pwyslais cryf ar gydweithio ym maes ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion.
Dywedodd Alice Butler, ein Swyddog Ymglymiad Cyhoeddus a Phroffesiynol CARE:
Maent wedi chwarae rhan amlwg a gwerthfawr ar draws ystod eang o weithgareddau cynhwysiant ac ymgysylltu. Mae hyn wedi cynnwys cyfrannu at geisiadau ymchwil, cymryd rhan mewn grwpiau Ymglymiad Cyhoeddus a Phroffesiynol sy’n ymwneud yn benodol ag ymchwil, a helpu i ddylunio astudiaethau fel cyd-ymgeiswyr cyhoeddus. Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiect ar gyd-gynhyrchu ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion ac wedi gweithio gydag Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i bennu blaenoriaethau ymchwil ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol. Ar ben hynny, maent wedi cyd-gynllunio a chyflwyno gweithdai addysgu a gynhyrchwyd ar y cyd ar gyfer myfyrwyr Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â chyflwyno ymateb ffurfiol ar y cyd i Gynllun Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru.
Mae’n fraint wirioneddol gweld gwaith ein Grŵp Profiad Bywyd yn cael ei gydnabod. Mae ein haelodau’n bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o gefnogaeth gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, ac maent yn aml yn mynd yr ail filltir i rannu eu harbenigedd gydag ymchwil o dan arweiniad a chefnogaeth CARE.
Fel Swyddog Ymglymiad y Cyhoedd, mae gen i’r fraint o gysylltu ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ac unigolion â phrofiad go iawn, yn ogystal â gweithio gyda grŵp mor ymroddedig i wneud yn siŵr bod ymglymiad y cyhoedd yn elfen ganolog o CARE ac ymchwil gofal cymdeithasol oedolion. Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud ymchwil yn fwy ystyrlon, yn fwy hygyrch ac yn fwy effeithiol i’r cyhoedd a’r sector gofal cymdeithasol.
Mae ein haelodau’n hyrwyddwyr ymchwil. Maent yn awyddus i ymgorffori profiad go iawn ym mhob cam o ymchwil gofal cymdeithasol ac, ar yr un pryd, datblygu eu hyder a’u sgiliau eu hunain fel cydweithwyr a chynghorwyr. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy, ac rwy’n hynod falch o’r hyn yr ydym yn ei gyflawni gyda’n gilydd.”

