
Dydd Mawrth 25 Tachwedd
12:00 – 13:30 GMT
Ar-lein
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio’r ymchwil ddiweddaraf yn y DU am fwyd, arferion bwyta, lles a gofal cymdeithasol i oedolion. Drwy gyfres o gyflwyniadau byr a thrafodaeth banel i ddilyn, byddwn ni’n trin a thrafod sut mae bwyd yn ymestyn y tu hwnt i faeth – a’i fod yn gatalydd pwerus ar gyfer cysylltiad, gofal a chymuned.
Byddwn ni’n trafod sut gall prydau bwyd a rennir a defodau bwyd bob dydd greu ymdeimlad o berthyn, mynd i’r afael ag unigrwydd cymdeithasol, a gwella lles ymhlith oedolion ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl anabl ac oedolion hŷn.
Mae’r weminar hwn ar agor i bawb – p’un a ydych chi’n weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol, yn ymchwilydd, yn lluniwr polisïau neu’n angerddol am bŵer cymdeithasol bwyd.
Cyflwyniadau panel:
Cyflwyniad 1: Mae astudiaeth FEAST yn ystyried y rôl y mae bwyd yn ei chwarae yng ngofal ac adsefydlu oedolion iau â chyflyrau niwrolegol sy’n byw mewn lleoliadau gofal tymor hir. Mae Dr Julie Latchem-Hastings yn ffisiotherapydd niwrolegol o ran cefndir, ac mae bellach yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd.
Cyflwyniad 2: Mae astudiaeth Bwyd, Bwyd a Mwy o Fwyd yn trin a thrafod beth sy’n gweithio o ran cynnig bwyd a diod mewn lleoliadau grŵp cymunedol amrywiol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Aelod panel: Mae Dr Becky Oatley yn ymchwilydd ac yn ddarlithydd mewn gwaith cymdeithasol, gyda diddordeb arbennig mewn heneiddio a dementia. Mae Becky yn gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Cyflwyniad 3: Prydau ar Glud: dod â chysylltiadau cymdeithasol i bobl hŷn? Canfyddiadau diweddar am bwysigrwydd gwasanaethau Prydau ar Glud wrth wella lles pobl hŷn yn y gymuned. Aelodau’r Panel: Yr Athro Angeliki Papadiki gyda’r Athro Paul Willis.
Mae Angeliki yn athro mewn maeth iechyd cyhoeddus yn Ysgol Astudiaethau Polisi, Prifysgol Bryste. Mae ganddi arbenigedd mewn maeth iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol, gyda ffocws ar ddeiet traddodiadol, gwasanaethau Prydau ar Glud, a meithrin cysylltiadau effeithiol i wella iechyd, cynaliadwyedd a lles cymunedol. Mae Paul yn Athro Gofal Cymdeithasol, yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig ac yn gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigo mewn heneiddio, cynhwysiant cymdeithasol a chynnig gofal cymdeithasol.
Gyda chyflwyniad gan yr Athro Kevin Morgan, athro mewn llywodraethiant a datblygiad yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ac awdur llyfr newydd, Serving the public: The good food revolution in schools, hospitals and prisons (ar gael gan Manchester Press, 2025).