Mae ymchwilwyr yn gobeithio datblygu darlun cliriach ynghylch pwy sy’n derbyn gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru
Lansiwyd menter i ddeall data ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn well.
Mae’r Labordy Data Cysylltiol Gofal Cymdeithasol (Labordy GOFAL), o dan arweiniad Canolfan Ymchwil er Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) Prifysgol Caerdydd wedi cael cyllid gwerth £1,441,577 gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Y prosiect hwn fydd y cyntaf yn y DU i gysylltu setiau data arferol ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion â ffynonellau gwybodaeth eraill, megis gofal iechyd, gofal cymdeithasol i blant a chyfrifiad 2021 gan ddefnyddio data dienw a gedwir yn ddiogel sydd ar gael drwy law Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sef amgylchedd ymchwil ymddiriedig (TRE) cenedlaethol Cymru. Bydd Labordy GOFAL yn rhoi’r darlun llawnaf ynghylch pwy sy’n cael gofal cymdeithasol ledled Cymru, gan mai’r nod yn y pen draw yw lywio polisïau a gwella gwasanaethau yng Nghymru a ledled y DU.
Yr Athro Jonathan Scourfield (CARE) a Dr Fiona Lugg-Widger o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd fydd yn cyd-arwain y prosiect, ar y cyd ag ymchwilwyr ac arbenigwyr polisi CASCADE, Prifysgol Abertawe, Ysgol Economeg Llundain, Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Anabledd Cymru.
Dyma a ddywedodd yr Athro Scourfield: Mae llawer iawn o ddata arferol yn cael ei gasglu gan y gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, bob tro y bydd gennym apwyntiad ysbyty neu ymweliad gan weithiwr cymdeithasol, bydd y GIG neu’r awdurdod lleol yn cadw cofnod ohono. Ym maes gofal cymdeithasol, nid yw’r data hyn yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol, a gellid dysgu cymaint drwy ei gyfannu ynghyd. Mae sector gofal cymdeithasol yn wynebu llawer o heriau, a gellid defnyddio data yn well i wella’r gwasanaethau.
Ychwanegodd Dr Lugg-Widger: “Drwy gysylltu setiau data gwasanaethau cyhoeddus gwahanol â’i gilydd – megis cofnodion practisau a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, bydd ein tîm ymchwil yn chwilio am batrymau a thueddiadau a allai ein helpu i ddeall sut mae unigolion yn derbyn gofal. Mae’n bwysig nodi bod modd gwneud hyn mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, gan ddiogelu preifatrwydd unigolion.
Byddwn ni’n cynnal cyfweliadau â staff gofal cymdeithasol, pobl sy’n derbyn gofal a chymorth a gofalwyr teulu er mwyn ceisio deall y patrymau a ganfuwyd gan ymchwilwyr.
Bydd Grŵp Profiad Bywyd yn cwrdd bob tri mis drwy gydol y prosiect. Bydd person anabl sydd â phrofiad o gyrchu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn arwain y grŵp, a bydd yn cynnwys ystod amrywiol o aelodau. Bydd pobl yn y grŵp hwn yn cael y cyfle i helpu o ran dadansoddi data ymchwil os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.
Ychwanegodd yr Athro Scourfield: “Yn ogystal â rhoi darlun cadarn yn sgil data, mae’n hollbwysig ein bod yn cynnwys profiadau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd eu lleisiau yn allweddol wrth lunio ein blaenoriaethau a’n nodau drwy gydol y prosiect pwysig hwn.”