Mae’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) wedi cynnal ei chyfarfod cyntaf o Fforwm Cynghori Ymarfer CARE.
Bydd y Fforwm Cynghori Ymarfer yn grŵp cynghori o fewn CARE, ac yn cynnwys gweithwyr proffesiynol, ymarferwyr a gofalwyr ym maes ofal cymdeithasol oedolion.
Ei rôl yw cynnig adborth ac arweiniad ar bynciau a blaenoriaethau ymchwil gofal cymdeithasol oedolion trwy arbenigedd unigol a chyfunol, gan sicrhau bod ymchwil yn parhau i fod yn berthnasol i ofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru.
Mae’r aelodau’n cynrychioli ystod o wasanaethau a sefydliadau ar draws Cymru gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gofal preswyl a nyrsio, gofal cartref, cymorth dementia, cymorth cyflyfrau iechyd hirdymor, diogelu oedolion, a gofal cymdeithasol ar gyfer ystod o anghenion gan gynnwys cymorth ysbyty, anawsterau dysgu, anableddau, niwrowahaniaeth, digartrefedd, dibyniaeth, a symud ymlaen o wasanaethau plant.
Bydd y Fforwm Cynghori ar Ymarfer CARE yn llwyfan ar gyfer cydweithrediad rhwng ymchwilwyr, gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ac ymarferwyr a gofalwyr, gan arwain at rannu profiadau o ymarfer i lywio a llunio blaenoriaethau ymchwil. Bydd yn meithrin diwylliant o ddysgu, gan annog pob aelod i wella eu dealltwriaeth o ymchwil gofal cymdeithasol, gan wella ymchwil ac effaith ym maes gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru a thu hwnt yn y pen draw.