Rhai o uchafbwyntiau blwyddyn brysur yn CARE
Ffurfio Tîm Craidd CARE
Yn 2024, croesawon ni wyth aelod newydd i’r tîm, gan ein gwneud yn dîm llawn am y tro cyntaf ers ffurfio’r ganolfan:
- Alexandra Williams, Rheolwr y Ganolfan
- Amy Chapple, Gweinyddwr y Ganolfan
- Clara Lewis, Swyddog Cyfathrebu
- Alice Butler, Gweithiwr Cynnwys y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol
- Jeremy Dixon, Dirprwy Gyfarwyddwr ac Ymchwilydd
- Sophie Wood, Ymchwilydd
- Mel Meindl, Ymchwilydd
- Simon Read, Ymchwilydd
Profiad Byw Cyfunol CARE
Ffurfion ni ein Profiad Byw Cyfunol (CLEC) CARE anhygoel, gan groesawu arbenigedd Damian Bridgeman, Chloe Cannon, Kirti Kotecha, Anne Rees, Dr Andy Woodhead, Richeldis Yhap a Mal O’Donnell.
Cyhoeddi’r Adroddiad Rhanddeiliaid Cyntaf
Cyhoeddon ni ein hadroddiad blynyddol cyntaf i randdeiliaid. Mae uchafbwyntiau’r adroddiad yn cynnwys:
- Cyfrannu at 60 o gyhoeddiadau
- Sicrhau dros £500 miliwn o gyllid
- Creu tîm ymchwil craidd gydag amrywiaeth o arbenigedd
- Sefydlu Bwrdd Cynghori Strategol a’r Grŵp Profiad Bywyd
Arddangosfa Bosteri Interniaethau’r Haf
Hyfryd oedd gweld y posteri a grëwyd gan interniaid CARE yn ystod yr haf, Joe McCartney a Ruan Olsen.
““Roedd fy interniaeth yn ystod yr haf gyda CARE yn brofiad amhrisiadwy. Roedd yn anhygoel dysgu gan weithwyr proffesiynol sy’n ymroi i gynnal ymchwil sy’n effeithio’n uniongyrchol ar faes gofal cymdeithasol oedolion a bywydau oedolion yn y system ofal cymdeithasol, a chydweithio â nhw.
Yr hyn a wnaeth argraff fwyaf arnaf oedd gallu CARE i rwydweithio â’r bobl y mae eu hymchwil yn anelu at eu helpu a’u cynnwys ynddi.” meddai Joe.
Meithrin Tîm
Rydyn ni wedi cael dau Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd cynhyrchiol (a heulog!) gyda’r tîm, gan gynnwys helfa sborion ym Mharc Bute ac ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Digwyddiadau ac ymgysylltu
Ym mis Mai, fe wnaethon ni gynnal seminar gydag ExChange Wales yn adeilad Sbarc ar ‘Hyrwyddo lles gofalwyr: ymchwil bresennol a chyfeiriadau’r dyfodol’, gan gynnwys cyflwynydd rhyngwladol o Brifysgol Tasmania.
Rhoddodd ein Cyfarwyddwr Paul Willis gyflwyniad yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar yr Heriau Mawr mewn Gofal Cymdeithasol, a chyflwyniad cyflym i’n canolfan mewn digwyddiad Cwrdd â’r Canolfannau a’r Sefydliadau Ymchwil Sbarc.
Cyfarfyddodd y Dirprwy Gyfarwyddwr Jeremy Dixon â Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy AS ym mis Hydref ac amlinellodd y cyfraniad y bydd CARE yn ei wneud i’r sefyllfa gofal cymdeithasol i oedolion.
Roedd lansiad swyddogol ein canolfan yn llwyddiant mawr a gosododd y naws a chyflymder yr ychydig flynyddoedd nesaf a fydd heb os yn brysurach fyth a gobeithiwn y daw â llwyddiannau newydd i ni eu rhannu.
Daeth y flwyddyn i ben gyda rhai digwyddiadau Nadoligaidd, gan gynnwys gemau Nadolig Sbarc/Spark, cyfarfod ar-lein hwyliog CLEC a ping pong ym mharti Nadolig ein tîm.