Rydyn ni ar ben ein digon o hyd ar ôl lansio ein canolfan yn swyddogol ar 17 Hydref.
Gwnaeth y digwyddiad nodi’r cyfeiriad y mae’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) yn mynd iddo, gan amlygu mai drwy gydweithio, cynnwys amryw leisiau a gwneud ymchwil drwyadl y byddwn ni’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau gofal cymdeithasol gwell i bawb yng Nghymru a thu hwnt.
Pwysigrwydd ymchwil
Bu i Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, osod y naws drwy bwysleisio “Ni fu’r angen am dystiolaeth gadarn erioed yn bwysicach”.
“Erbyn 2030, bydd cynnydd o 18% yn nifer y bobl hynny dros 65 oed – mae hynny’n cynrychioli miloedd o bobl a fydd yn dibynnu ar ein gwasanaethau gofal.
“Mae’r galw yn tyfu, ac mae cymhlethdod yr angen yn cynyddu. Dyma lle mae grym ymchwil yn chwarae rhan hollbwysig yn arf hanfodol wrth gynnig y gwasanaeth hwn.”
Cyflwyniadau cyflym
Rhoddodd ymchwilwyr gyfres o gyflwyniadau cyflym ar yr ymchwil sydd eisoes ar y gweill o dan gylch gorchwyl CARE.
Mae’r prosiect “Technolegau Cynorthwyol Arloesol ar gyfer Dementia” a ariennir gan Rwydwaith Arloesedd Cymru, ac a gafodd ei gyflwyno gan Dr Sofia Vougioukalou, sy’n un o Gymrodyr Ymchwil CARE, a Jazz Browne, Prif Weithredwr Canolfan Adnoddau Nubian Life, yn ymchwilio i anghenion amryw o bobl â dementia a’u gofalwyr, gan gynnwys y rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu wrth ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
Cyflwynodd Dr Georgie Powell ymchwil ei chymrodoriaeth ar y testun Defnyddio Technolegau Cartref Clyfar ym maes Gofal Cymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar bobl ag anableddau dysgu sy’n byw mewn tai â chymorth, ac oedolion hŷn mewn tai cymdeithasol.
Mae’r prosiect ymchwil Engage to Change, a gafodd ei gyflwyno gan Dr Elisa Vigna, yn ymchwilio i effaith hirdymor y prosiect cenedlaethol hwn, a wnaeth weithio gyda chyflogwyr, pobl ifanc ag anableddau neu anawsterau dysgu a’r rhai ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth i greu cyfleoedd gwaith ledled Cymru a’u cefnogi.
Siaradodd Dr Catherine Purcell am ei hymchwil ar adeiladu cymunedau sy’n cynnwys oedolion niwrowahanol yn fwy, gan gynnwys y rhai sydd ag Anhwylder Cydlynu Datblygiadol, Dyslecsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar heneiddio â chymorth a theithio llesol.
Grŵp Profiad Bywyd
Cyflwynodd Alice Butler, Gweithiwr Cynnwys y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol, ein Grŵp Profiad Bywyd yn CARE. Mae’n cynnwys Damian Bridgeman, Chloe Cannon, Kirti Kotecha, Anne Rees, Dr Andy Woodhead, Richeldis Yhap a Joe Powell, sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’n gwaith ymchwil.
Yn ôl Dr Andy Woodhead, sy’n byw gyda Dementia, “Dylai pobl â phrofiad bywyd gael eu trin yn gydradd mewn ymchwil”.
Sut gall ymchwil fynd i’r afael â heriau ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru
Yn olaf, gwnaeth ein panel – sy’n cynnwys Cyfarwyddwr CARE yr Athro Paul Willis, Taryn Stephens (Dirprwy Gyfarwyddwr Gwella, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio), Rachel Bowen (Cyfarwyddwr Polisi, Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn), Sarah McCarty (Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru) a’r Athro Andy Pithouse o Brifysgol Caerdydd – ofyn “Beth yw’r heriau mwyaf ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru? A sut mae gwaith ymchwil yn gallu helpu i fynd i’r afael â’r rhain?”
Amlinellodd yr Athro Paul Wills y prif flaenoriaethau ar gyfer ymchwil ym maes gofal cymdeithasol i oedolion:
- Mwy o ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gofal cymdeithasol
- Gwerthfawrogi’r unigolion sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn fwy
- Sut gallwn ni gofleidio Deallusrwydd Artiffisial mewn modd moesegol ym maes gofal cymdeithasol?
Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac a helpodd i’w wneud yn llwyddiant ysgubol.