gan yr Athro Paul Willis
Croeso i’r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE)! Fi yw’r Cyfarwyddwr a benodwyd yn ddiweddar, ac mae’n bleser gen i gyflwyno ein canolfan ymchwil.
Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw gwneud cyfraniad sylweddol at y sylfaen wybodaeth ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys creu tystiolaeth newydd sy’n llywio sut mae cymorth yn cael ei roi ym maes gofal cymdeithasol i oedolion drwy ymchwil amlddisgyblaethol, yng Nghymru a thu hwnt.
Y Cefndir
Mae CARE yn gydweithrediad rhwng Ysgol Y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ganolfan Treialon Ymchwil. Mae datblygiad CARE wedi cael cefnogaeth gref gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), ac rydyn ni’n falch o fod wedi derbyn cyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Adeiladu sylfaen dda
Yn ein blwyddyn gyntaf, rydyn ni wedi rhoi sylw i’r elfennau sy’n hanfodol er mwyn llwyddo. Un elfen hanfodol yw cael y bobl iawn i gymryd rhan. Yn ein tîm ymchwil mae arbenigedd disgyblaethol helaeth ac amrywiol, gyda chefndiroedd ym meysydd iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, cymorth ac ymyriadau camddefnyddio sylweddau, pobl hŷn, lleoliadau gofal iechyd a chynhwysiant cymdeithasol, dulliau creadigol ac ymagweddau realaidd at ymchwil, rhywioldeb a heneiddio, a dynion a gwrywdodau.
Mae gan ein staff cymorth proffesiynol sgiliau ac arbenigedd ym meysydd cyllid, gweinyddu, cyfathrebu a chynnwys y cyhoedd. Mae gan lawer o aelodau’r tîm brofiad o gefnogi pobl ag anghenion gofal a chymorth.
Dull cydweithredol
Elfen hanfodol arall yw cydweithio, sy’n ganolog i’n gwaith. Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys pobl sy’n arwain elusennau, llunwyr polisïau a chynrychiolwyr awdurdodau lleol sy’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol.
Rydyn ni wedi sefydlu Grŵp Cynghori Strategol, dan gadeiryddiaeth Andrew Pithouse, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, cyfarwyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol ac academyddion sydd â phrofiad helaeth o ymchwil gofal cymdeithasol, a phobl sydd â phrofiad bywyd o dderbyn cymorth gofal cymdeithasol.
Mae ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd a gofalwyr yn sylfaen bwysig i’n gwaith. Rwy’n falch iawn bod Bwrdd Cynnwys y Cyhoedd, sy’n cynnwys unigolion ymroddgar sydd â phrofiad bywyd o dderbyn gofal a chymorth, gennyn ni bellach. Bydd cefnogi gwaith cynnwys y cyhoedd wrth wraidd strategaeth a gweithgarwch craidd CARE.
Ymchwil o ansawdd uchel
Trydedd elfen hanfodol yw cael yr adnoddau i wneud ymchwil o ansawdd uchel. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno ceisiadau i ffrydiau ariannu hollbwysig dan arweiniad sefydliadau megis Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.
Mae’r elfen hanfodol olaf – arbenigedd amlddisgyblaethol – yn hollbwysig i ddwyn ynghyd safbwyntiau gwahanol ond cyflenwol ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau gofal cymdeithasol dybryd.
Ein meysydd ymchwil thematig allweddol yw:
- Dementia a chyflyrau niwrolegol eraill,
- Anableddau ac anawsterau dysgu, niwrowahaniaeth,
- Tai a lleoliadau gofal hirdymor i bobl hŷn,
- Pontio i fod yn oedolion a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion,
- Rheoli’r gweithlu a darparu gofal.
Rydyn ni’n sefydlu ffrydiau thematig newydd ym meysydd technoleg, gofal a lles, gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth gofal cymdeithasol.
Er mai dyddiau cynnar yw’r rhain o hyd, mae gennyn ni’r holl gynhwysion hanfodol i ffynnu a sicrhau ymchwil newydd ym maes gofal cymdeithasol i oedolion sy’n berthnasol i feysydd blaenoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.