Gan Dr Simon Read
Mae gweithredu’n gynnar i atal pethau diangen rhag digwydd yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Mae’r cysyniad o ‘atal’ wedi’i seilio ar wneud tasgau bob dydd fel brwsio dannedd ac ar wirebau fel ‘un pwyth mewn pryd sy’n safio wyth’. Mae’n ymddangos yn rhywbeth synhwyrol sydd wedi’i seilio ar resymeg sy’n anodd ei gwadu.
Mae Anna Coote yn crynhoi atal mewn tair sefyllfa: ar ben uchaf y gadwyn, ar ganol y gadwyn, ac ar waelod y gadwyn. Gellir dadlau bod gweithredu ar waelod y gadwyn yn cuddio problem sy’n digwydd ymhellach i fyny’r gadwyn. Ym maes gofal iechyd, mae hyn wedi arwain at waith monitro ataliol mewn ystod eang o gyflyrau, ac ymdrechion ar sail iechyd y cyhoedd tuag at roi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach, ymarfer corff yn rheolaidd, a gwella amodau amgylcheddol.
Atal ym maes gofal cymdeithasol
Ond sut mae hyn yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol? Mewn sefyllfa hynod o gymhleth, sy’n aml yn gofyn am gael dychymyg hanesyddol i ddeall achosion sylfaenol problemau unigol a chymunedol, oes modd inni ddefnyddio’r un dulliau gweithredu?
Rwyf wedi bod yn ymchwilio i ofal cymdeithasol a chymorth ataliol yng Nghymru ers pum mlynedd, gan weithio i ddechrau gyda thîm a werthusodd Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Canfuwyd maes anghyson lle’r oedd nifer o ddehongliadau o waith atal yn cael eu cyfuno â’i gilydd. I rai, mater i gymunedau ac unigolion yw helpu eu hunain. Mae eraill yn ystyried gwaith atal yn ffordd o leihau gwariant y wladwriaeth neu osgoi cwymp yn y system mewn cyd-destun lle mae cyllidebau wedi gostwng, lleihad yn y gweithlu, a chynnydd yn y galw.
Rheidrwydd a chymhlethdod gwaith atal
Mae’r sefyllfa hon yn deillio o bryderon ynghylch darpariaeth gofal gan y wladwriaeth, yn enwedig i bobl hŷn. Mae newidiadau demograffig bellach yn golygu bod gennym boblogaeth sy’n heneiddio, a gweithlu sy’n lleihau bob blwyddyn. Mae’n demtasiwn ystyried gwaith atal yn ‘ateb i bopeth’, yn ffordd o leddfu’r effeithiau hyn, neu o leiaf eu gohirio.
Ond mae hanes gwaith atal yn dangos ei bod yn broses barhaus, ac yn un sy’n cael ei roi i’r neilltu pan fydd y sefyllfa economaidd yn gwaethygu. Mae hynny oherwydd bod gofal cymdeithasol a chymorth ataliol, yn ôl eu natur, yn gymhleth. Mae’n gofyn am sylw a buddsoddiad. Mae hefyd yn sylfaenol anodd mesur effeithiau’r gwaith, oherwydd gall y rhain fod yn rhai hirdymor, yn ddiriaethol ac aflinol.
Chwalu’r dirgelion am waith atal ym maes gofal cymdeithasol
Bwriad fy mhrosiect yw egluro rhai o’r prosesau hyn. Bydd hyn yn golygu ystyried yr hyn y mae gwasanaethau atal yn ceisio ei gyflawni mewn gwirionedd. Ai gwella llesiant yr unigolion sy’n eu defnyddio yw’r nod? Dod i gysylltiad agosach â’ch cymuned? Tyfu asedau cymunedol a gwella eu gwydnwch? Neu osgoi gwariant gan y wladwriaeth?
Mae llawer yn dibynnu ar sut yr ydym yn ystyried y cyfyng-gyngor hwn. Bydd gofyn cymryd ymagwedd amlweddog, ystyriol gyda barn ar y ffordd orau o ddatblygu ‘systemau cyfan’ integredig, a’r ffordd orau o ddarparu ar gyfer bywydau cymhleth y rhai y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Cydnabyddiaethau
Sbardunwyd hwn gan ganfyddiadau o Astudiaeth IMPACT, a’m Cymrodoriaeth Iechyd parhaus gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Hoffwn gydnabod y timau anhygoel sydd wedi gweithio ar y prosiectau hyn a’u cefnogi, gan gynnwys yr Athro Fiona Verity (Prifysgol Brunel), Dr Gideon Calder (Prifysgol Abertawe), yr Athro Mark Llewellyn, a’r Athro Jonathan Richards (Prifysgol De Cymru).