Gweithio Gyda’n gilydd: Dathlu Cydweithio, Cynnwys y Cyhoedd a Phartneriaeth ym maes Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Rydyn ni’n falch o rannu fideo byr o Ddigwyddiad Rhwydweithio Lleisiau Cymunedol ac Ymchwil CARE, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2026.
Gwyliwch y fideo isod i gael blas ar y diwrnod a chlywed yn uniongyrchol gan aelodau cymuned CARE, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, ymarferwyr, ymchwilwyr a phartneriaid a gymerodd rhan yn y digwyddiad.
Fideo Digwyddiad Llais y Gymuned
Dod â Safbwyntiau Gwahanol Ynghyd
Daeth y digwyddiad ag ymchwilwyr, ymarferwyr gofal cymdeithasol, pobl â phrofiad bywyd, gofalwyr di-dal, myfyrwyr a phartneriaid cymunedol ynghyd ar gyfer diwrnod o rwydweithio, trafodaeth, a dysgu ar y cyd.
Yn y digwyddiad, a ganolbwyntiodd ar y thema Gweithio Gyda’n Gilydd, ddathlwyd gwerth cydweithio, cynnwys y cyhoedd a chyd-greu ym maes ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion. Roedd cyfranogwyr yn rhannu profiadau, yn ystyried blaenoriaethau cyffredin, ac yn trafod y ffordd y gall ymchwil, arbenigedd ymarfer a phrofiad bywyd weithio gyda’i gilydd i gefnogi newid cadarnhaol.
Gwnaeth aelodau o’r Grŵp Profiad Bywyd CARE (CLEC), y Fforwm Cynghori Ymarfer (PAF), ymchwilwyr a phartneriaid cymunedol gymryd rhan mewn trafodaethau, gweithgareddau rhwydweithio a sesiynau creadigol, gan greu cyfleoedd i greu cysylltiadau newydd a chryfhau perthnasoedd ledled cymuned CARE.
Cryfhau Ymchwil Drwy Bartneriaeth
Tynnodd y digwyddiad sylw at ymrwymiad CARE i gynnwys y cyhoedd mewn ffordd ystyrlon ac i weithio mewn partneriaeth. Drwy ddod ag ymchwil, arbenigedd ymarfer a phrofiad bywyd ynghyd, nod CARE yw sicrhau bod ymchwil yn canolbwyntio ar y materion sy’n bwysicaf i bobl a chefnogi newid cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion.
Hoffen ni ddiolch i bawb a wnaeth gyfrannu at y digwyddiad a helpu i wneud y diwrnod yn un mor ddiddorol ac ysbrydoledig.

