Cyflwyniad:
Mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i brofiadau dynion hŷn o gelcio a hunan-esgeuluso lle mae’r rhain yn cyd-fynd a’u hymgysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hunan-esgeulustod yn cynnwys esgeuluso anghenion sylfaenol fel hylendid personol, diogelwch a diet a gall gynnwys celcio neu dal gafael ar eiddo a methu â’i waredu, gan greu mannau byw anniben ac yn aml yn beryglus. Gall celcio effeithio’n ddifrifol ar les person ac weithiau ar les a diogelwch ehangach y gymdogaeth. Hyd yn hyn ychydig iawn o ymchwil sy’n bodoli ar brofiadau dynion hŷn o gelcio a hunan-esgeuluso, ond gwyddom fod dynion hŷn yn llai tebygol o geisio cymorth a chefnogaeth.
Cefndir:
Y nod cyffredinol yw nodi ffyrdd o wella’r gefnogaeth sydd ar gael, a’r ymgysylltiad â gwasanaethau, i ddynion hŷn sy’n celcio ac yn hunan-esgeuluso ar yr un pryd (gan gynnwys lle mae celcio yn arwain at bryderon am hunan-esgeuluso) yng Nghymru. Ein cwestiynau ymchwil yw:
Sut mae rhywedd a gwrywdod yn llunio ymatebion gofal cymdeithasol i ddynion hŷn yn y grŵp hwn?
Sut mae dynion hŷn (60+ oed) sy’n celcio ac yn hunan-esgeuluso ar yr un pryd yn ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol?
Dulliau astudio a gweithgareddau:
Bydd y dulliau’n cynnwys:
- Cyfweliadau â dynion hŷn am eu profiadau diweddar a chyfredol o gelcio;
- Cyfweliadau â gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ynglŷn â dull diogelu i gefnogi dynion hŷn;
- Dadansoddiad thematig o nodiadau achos dienw a ddarparwyd gan awdurdodau lleol sy’n cydweithio gyda ni.
Drwy gydol y prosiect, byddwn ni’n gweithio gyda grŵp cynnwys y cyhoedd sy’n cynnwys dynion sydd â phrofiad o gelcio a gofalwyr teuluol.
Arweinwyr Ymchwil:
Yr Athro Paul Willis, CARE
Cysylltiadau CARE:
Mae hwn yn brosiect dan arweiniad CARE a gynhelir gan CARE
Aelodau Ymchwil a chydweithrediadau:
Rydyn ni’n cydweithio â Kayley Hyman o Holistic Hoarding (elusen yn Ne Cymru sy’n cefnogi pobl sy’n celcio). Ein cydweithwyr yw pedwar awdurdod lleol (Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Gofal Cymdeithasol Cymru (rheoleiddiwr gofal cymdeithasol cenedlaethol).
Ariannwr / Arianwyr:
Rhaglen Ymchwil Gofal Cymdeithasol NIHR
Swm y cyllid:
£412,296
Dyddiad dechrau’r prosiect:
01/02/2026
Dyddiad gorffen y prosiect:
31/01/2028
Canfyddiadau:
Yn parhau

