Mae CARE wedi croesawu ymchwilydd rhyngwladol gwadd sy’n ymchwilio i ofal cymunedol ac anghydraddoldeb trefol

Awst 2026:

Roedd CARE wrth ei bodd yn croesawu Dr Felipe Szabzon, ymchwilydd gwadd o Brifysgol São Paulo a Choleg y Brenin Llundain, ar 7 ac 8 Gorffennaf mewn rhaglen o weithgareddau ar ofal cymunedol, anghydraddoldeb cymdeithasol a lles.

Cryfhaodd yr ymweliad, dan ofal Dr Jeremy Dixon, gysylltiadau ymchwil rhyngwladol, gan hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a Brasil ar faterion sy’n ymwneud â gofal iechyd meddwl cymunedol.

Yn rhan o’r ymweliad, cyflwynodd Felipe seminar yn CARE o’r enw Pwy Sy’n Gofalu mewn Dinasoedd Anghyfartal? Dioddefaint Cymdeithasol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl Trefol yn yr America Ladin Gyfoes Gan ddefnyddio ei ymchwil yn São Paulo, Brasil, soniodd Felipe am sut yr oedd y system iechyd meddwl cymunedol wedi datblygu ym Mrasil, yn dilyn cau ysbytai seiciatrig hirdymor yn yr 1980au a’r 1990au.  Bu’n trafod sut mae gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol wedi datblygu ynghyd â rôl bwysig sefydliadau cymunedol, Sefydliadau Anllywodraethol a rhwydweithiau gofal anffurfiol.

Denodd y seminar gydweithwyr o bob cwr o’r Brifysgol, gan ddod ag ymchwilwyr a myfyrwyr o feysydd cymdeithaseg, gwaith cymdeithasol, daearyddiaeth a chynllunio ynghyd.  Myfyriodd y sawl ddaeth ynghyd ar themâu cyffredin gan gynnwys anghydraddoldeb mynediad at gymorth, datblygu gwasanaethau yn ystod pandemig Covid-19 a chyfraniad gweithwyr cymdeithasol a sefydliadau lleol at les pobl.

Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Jeremy Dixon a gynhaliodd ymweliad Felipe:

“Roedd yn bleser croesawu Felipe i CARE a dysgu o’i ymchwil ar iechyd meddwl a gofal cymunedol trefol.  Mae Brasil wedi mabwysiadu polisïau gofal yn y gymuned i bobl â phroblemau iechyd meddwl yn gymharol ddiweddar.  Er bod y cyd-destunau cymdeithasol a pholisi yn wahanol, roedd peth tebygrwydd annisgwyl rhwng systemau iechyd meddwl Brasil a’r DU.  Roedd hefyd yn ddefnyddiol dysgu am arloesi ym Mrasil y gallai system y DU ei fabwysiadu megis darparu iechyd meddwl mewn canolfannau dydd cymunedol. 

Mae’r ymweliad yn rhan o ymrwymiad parhaus CARE i feithrin cydweithio rhyngwladol a dod ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau gwahanol ynghyd i fynd i’r afael â heriau gofal cymdeithasol cymhleth. Drwy rannu syniadau a phrofiadau ar draws ffiniau cenedlaethol a disgyblaethol, mae’r math hwn o gyfnewid o gymorth inni gael cipolwg newydd a chryfhau ymchwil a all lywio polisi ac ymarfer.

Am adroddiad manylach o ymchwil Felipe ar ddiwygiadau iechyd meddwl Brasil a rôl gweithwyr cymdeithasol wrth gefnogi gofal cymunedol, darllenwch flogiad Felipe: Beyond the Asylum: Social Workers and Mental Health Reform in Brazil.

Hoffai CARE ddiolch i Felipe am rannu ei ymchwil a’i ddealltwriaeth ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol i gydweithwyr yng Nghaerdydd, São Paulo a thu hwnt gydweithio â’i gilydd.