Gan yr Athro Paul Willis, Cyfarwyddwr CARE
Roeddwn i wrth fy modd o gymryd rhan mewn trafodaeth banel ddiweddar yng nghynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar sut y gall ymchwil gofal cymdeithasol effeithio ar bolisi ac ymarfer, ochr yn ochr â’r Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr, Partneriaeth CASCADE, Rachel Scourfield, Pennaeth Defnyddio Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, o dan gadeiryddiaeth Dr Diane Seddon, Darllenydd Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
Un neges allweddol o’r sgwrs ddiddorol hon oedd pwysigrwydd hanfodol ymgysylltu â’r partneriaid cywir o gamau cynnar prosiect – o ddatblygiad cychwynnol cynigion ymchwil yn ddelfrydol. Mae effaith ystyrlon yn dibynnu ar ymchwilwyr yn rhoi o’u hamser i feithrin perthnasoedd cydweithredol hirdymor ar draws y sector – mae hyn yn cynnwys cydweithio â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o gymorth gofal cymdeithasol a grwpiau sy’n cynrychioli eu lleisiau.
Gall dod o hyd i’r partneriaid cywir a’u cynnwys ar yr amser cywir fod y gwahaniaeth rhwng llwyddiant neu fethiant o ran dylanwad ymchwil ar bolisi ac ymarfer. Rhannais enghraifft o brosiect diweddar a oedd â’r nod o godi proffil gweithwyr cymdeithasol sy’n cefnogi pobl hŷn yn y gymuned a’u gwneud nhw’n fwy gweledol – dangoson ni sut mae cyfraniad gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth wrth gyflawni canlyniadau da i bobl hŷn. Cryfhawyd y gwaith hwn gan gyfranogiad dau sefydliad allweddol a rhwydwaith eang o randdeiliaid, gan gynnwys grŵp cynghori ar bolisi, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW), Prif Weithwyr Cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, grwpiau cynghori lleol, a phobl â phrofiadau bywyd—gan gynnwys gofalwyr a phobl hŷn anabl. Yn sgil ein canfyddiadau, mae un awdurdod lleol wrthi’n adolygu ei brosesau adnoddau gwaith cymdeithasol i weld sut y gall wella parhad wrth ddyrannu gwaith cymdeithasol.
Mae astudiaeth a arweinir gan Dr Georgie Powell yn enghraifft arall o effaith gadarnhaol perthnasoedd a chydweithrediad hirdymor. Mae’n edrych ar gymhwyso technolegau cartrefi clyfar i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i barhau i fyw’n annibynnol mewn tai â chymorth. Yn sgil y prosiect hwn, mae Georgie wedi gweithio gyda darparwr tai lleol i ddatblygu a gweithredu llawlyfr i helpu i wella cefnogaeth i drigolion ag anableddau dysgu.
Ceir gwerth aruthrol o gydweithio â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ofal cymdeithasol. Mae cefnogi cyd-ymchwilwyr sydd â phrofiad bywyd – boed fel defnyddwyr neu ddarparwyr cymorth a gwasanaethau gofal cymdeithasol – yn gwneud gwahaniaeth trawiadol. Maen nhw’n dod â’r ymchwil yn fyw ac mae pobl yn gwrando ar ganfyddiadau’r ymchwil mewn ffordd wahanol.
Drwy gyllid seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae ein Swyddog Cynnwys y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol, Alice Butler, yn gweithio’n agos gyda Chydweithfa Profiadau Bywyd CARE— grŵp o unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o ddefnyddio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Maen nhw’n cyfrannu mewn sawl ffordd: cyd-ddylunio cynigion, gweithredu fel cyd-ymgeiswyr cyhoeddus, a dylanwadu ar bolisi. Yn ddiweddar, cyflwynodd y Gydweithfa ei hymateb ei hun i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu Hawliau Anabledd arfaethedig—enghraifft bwerus o sut y gall profiad bywyd lunio polisi cenedlaethol.
Rydyn ni hefyd wedi cael y fraint o weithio gyda Fforwm Cynghori Proffesiynol, sy’n cynnwys ymarferwyr, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill o ystod o gefndiroedd gwahanol o fewn y sector gofal cymdeithasol i oedolion. Mae aelodau’r grŵp hwn yn rhannu eu persbectif yn seiliedig ar brofiad proffesiynol ar y ffordd orau o gymhwyso’r dystiolaeth sy’n dod i law trwy ymchwil yn ymarferol.
Rydyn ni’n ffodus o gael y gefnogaeth sy’n galluogi’r cydweithrediad hanfodol hwn.

