Mae Grŵp Profiad Bywyd CARE yn grŵp hanfodol yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE). Mae’n dwyn ynghyd bobl sydd ag ystod eang o brofiadau o ofal cymdeithasol, boed pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth am wahanol resymau neu bobl sy’n ofalwyr heb dâl.
Mae aelodau’r grŵp yn rhannu eu syniadau a’u safbwyntiau am ymchwil yn seiliedig ar eu profiad bywyd. Nod y grŵp yw gwella ymchwil gofal cymdeithasol drwy sicrhau ei bod yn cael ei llunio a’i dylanwadu gan y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o gael a chynnig cymorth gofal cymdeithasol i oedolion.
Mae aelodau ein Grŵp Profiad Bywyd yn cefnogi ymchwil gofal cymdeithasol drwy nodi cwestiynau pwysig, megis pa broblemau y dylai ymchwil fynd i’r afael â nhw, sut y gellir gwella gofal cymdeithasol, a’r hyn sydd ei angen ar bobl mewn gwirionedd. Maen nhw hefyd yn cynghori CARE ar bynciau megis:
- Beth yw’r ffordd orau o gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol mewn ymchwil.
- Pa bynciau ymchwil ym maes gofal cymdeithasol sy’n bwysig.
- Sut mae canfyddiadau ymchwil yn cael eu cyfathrebu i’r cyhoedd.